Tanau LA: 'Does gen i ddim dillad, does gen i ddim byd'

AltadenaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Altadena ger Eaton ydy un o'r ardaloedd sydd wedi ei tharo waethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymraes sy'n byw yn Los Angeles wedi gorfod ffoi o'i chartref wrth i'r tanau gwyllt achosi difrod sylweddol.

Mae Lynwen Hughes-Boatman, sy'n wreiddiol o Gaerffili, yn byw yn ardal Altadena ger Eaton - un o'r ardaloedd sydd wedi ei tharo waethaf.

Bellach, mae 180,000 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi ac mae o leiaf 10 o bobl wedi marw ers dechrau'r tanau yn Los Angeles.

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Lynwen ei bod hi'n ddiogel, ond "does gen i ddim dillad, does gen i ddim byd".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lynwen Hughes-Boatman wedi gorfod ffoi o'i chartref yn Altadena

Mae'n cofio'r foment pan benderfynodd ffoi o'i chartref.

"Ges i alwad gan ffrind ac fe ddwedodd e 'mae'n rhaid ti fynd, mae'r mynyddoedd ar dân'," meddai.

"Nes i alw neighbours fi gyd i ddweud, a nes i edrych allan drwy'r ffenestr ac mi oedd yr awyr yn goch llachar.

"Oeddwn i'n gwybod bod yn rhaid jyst mynd. Nes i gael fy mhasport, green card, arian a jyst mynd."

Mae Lynwen bellach yn ddiogel ac yn aros mewn Airbnb, ond yn dweud bod y ffaith nad ydy hi'n cael dychwelyd i'w chartref "yn drist ofnadwy".

Disgrifiad,

Mae nifer o dai ar stryd Lynwen wedi llosgi'n ulw yn y tanau

Eglurodd bod "lot o bobl yn ceisio gweld os ydy eu tai nhw dal yn sefyll, ond fi'n gwybod bod tŷ fi yn sefyll oherwydd bod person drws nesaf wedi galw fi bore 'ma". 

"Mae'r tŷ drws nesaf a nesaf wedyn yn iawn, ond mae popeth arall wedi mynd."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Y difrod yn Altadena ger Eaton, ble mae Lynwen Hughes-Boatman yn byw

"Gobeithio bydda i'n gallu mynd nôl fory neu dros y penwythnos i o leiaf gallu cael dillad a ballu," meddai.

"Fi'n 'nabod 30 o deuluoedd sydd wedi colli tai, ond mae'n siŵr fod mwy ond 'sai'n gwybod ar hyn o bryd. 

"Malibu, Hollywood Hills, ma' nhw gyd ar dân. Mae 5,000 o dai wedi llosgi yn Pacific Palace Hills. "

A hithau wedi byw yn Altadena ers dros 30 mlynedd, aeth ei merch, Rhiannon, i'r ysgol gynradd yno.

"Mae holl atgofion Rhiannon o dyfu fyny yno wedi mynd," meddai. 

Pynciau cysylltiedig