Arestio lleidr honedig ar ôl i ddefaid gael eu dwyn yng Ngheredigion

Defaid yn pori.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd degau o ddefaid eu dwyn o fferm yn Rhydlewis, ger Castellnewydd Emlyn

  • Cyhoeddwyd

Mae lleidr defaid honedig wedi cael ei arestio, ar ôl i oddeutu 75 o ddefaid gael eu dwyn ger Castellnewydd Emlyn.

Cafodd yr anifeiliaid eu dwyn o fferm yn ardal Rhydlewis, ac mae dyn 40 oed, sydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddwyn - wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd 63 o'r defaid eu darganfod mewn tri lleoliad o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys dros y pedwar diwrnod diwethaf.

Roedd apêl wedi cael ei rannu fwy na 700 o gwaith, ac mae ymholiadau pellach gan yr heddlu'n cael eu cynnal.

Dywedodd yr Arolygydd Matthew Howells fod y gefnogaeth, gan gymunedau ffermio "pell ac agos", wedi bod yn bwysig er mwyn sicrhau canlyniad cadarnhaol.

Pynciau cysylltiedig