Arweinydd cwlt rhyw 'ffiaidd' yn cael gwrandawiad parôl

Colin BatleyFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2011, fe gafwyd Colin Batley, oedd yn 48 ar y pryd, yn euog o 35 o droseddau

  • Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y gallai arweinydd cwlt rhyw wnaeth gam-drin plant yn rhywiol yn Sir Gaerfyrddin gael ei ryddhau yn sgil gwrandawiad gan y Bwrdd Parôl.

Yn 2011, fe gafwyd Colin Batley, oedd yn 48 ar y pryd, yn euog o 35 o droseddau yn Llys y Goron Abertawe.

Cafodd tair menyw, gan gynnwys ei gyn-wraig, eu carcharu am eu rhan yn y troseddau.

Symudodd Batley o Lundain i Gydweli, ble roedd y cwlt yn gweithredu mewn clos dawel.

Cafodd Batley ei garcharu am gyfnod amhenodol gydag argymhelliad y dylai dreulio o leiaf 11 mlynedd dan glo.

Dywedodd y Barnwr, Paul Thomas KC, ar y pryd ei bod hi'n "bosib na fyddai byth yn cael ei ryddhau".

Aeth Batley o flaen y Bwrdd Parôl yn 2023 ond cafodd ei gais ei gwrthod.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron y Bwrdd ddydd Gwener, gyda phenderfyniad o fewn 14 diwrnod.

Clywodd y llys ei fod wedi bod yn cam-drin plant a phobl ifanc am dri degawd.

'Person ffiaidd'

Roedd y cwlt, oedd yng Nghlos yr Onnen, yn gyfrifol am droseddau erchyll yn erbyn plant a phobl ifanc.

Cafodd Jacqueline Marling, 42, ei charcharu am 12 mlynedd tra bod gwraig Batley, Elaine, oedd yn 47, wedi'i charcharu am wyth mlynedd.

Cafodd Shelly Millar, 35, ei dedfrydu i bum mlynedd o garchar a chafodd ei disgrifio fel "caethwas rhyw" i Batley.

Roedd y grŵp yn defnyddio credoau Ocwlt i gyfiawnhau'r gamdriniaeth ac i orfodi'r dioddefwyr i gymryd rhan.

Clywodd y llys fod Batley wedi defnyddio ei rôl fel arweinydd y cwlt i dreisio bechgyn a merched.

Roedd Batley ac eraill wedi defnyddio gweithiau Aleister Crowley - The Book of Law - sydd yn canmol puteindra - fel arweiniad a rhaglen ar gyfer eu gweithredoedd.

Roedd yn defnyddio'r ocwlt fel ffordd o reoli a dylanwadu ar ddioddefwyr.

Dywedodd y Barnwr Thomas fod Batley wedi symud o Lundain i Gymru yn y 1990au ac wedi ffurfio'r cwlt yng Nghydweli.

"Mae'r hyn ddigwyddodd yn dilyn hynny wedi pardduo enw tref Cydweli," meddai ar y pryd.

"Fe grewyd cymuned o fewn cymuned. Fe ddisgrifiwyd chi fel person ffiaidd. Mae hynny, yn fy marn i yn ddisgrifiad cwbl addas o'ch cymeriad."

'Amddiffyn y cyhoedd yw'r flaenoriaeth'

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Bwrdd Parôl bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn breifat ddydd Gwener a bod disgwyl penderfyniad o fewn 14 diwrnod.

"Mae penderfyniadau y Bwrdd Parôl yn canolbwyntio ar y bygythiad o ryddhau carcharor, ac a ydy hi'n bosib rheoli'r risg yn y gymuned," meddai.

"Fe fydd y panel yn craffu ar sawl darn o dystiolaeth gan gynnwys y drosedd wreiddiol, unrhyw dystiolaeth o newid ymddygiad, ac effaith y drosedd ar ddioddefwyr.

"Mae'r aelodau yn pori dros gannoedd o dudalennau o dystiolaeth cyn gwrandawiad.

"Fe glywir tystiolaeth gan swyddogion prawf, seicolegwyr, seiciatryddion, swyddogion sydd yn goruchwylio'r carcharor ynghyd â datganiadau gan ddioddefwyr.

"Mae'r carcharor a thystion yn cael eu holi yn drwyadl yn ystod y gwrandawiad sydd yn medru para diwrnod neu fwy.

"Mae gwrandawiadau Parôl yn cael eu cynnal gyda'r gofal mwyaf. Amddiffyn y cyhoedd yw'r brif flaenoriaeth."

Pynciau cysylltiedig