Yr ymgyrchydd Gwilym Roberts wedi marw yn 90 oed

Treuliodd Gwilym Roberts 31 mlynedd fel athro Cymraeg mewn tair ysgol gynradd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-athro a'r ymgyrchydd brwdfrydig dros ddysgu'r Gymraeg, Gwilym Roberts, wedi marw yn 90 oed.
Cafodd ei eni yn Llanisien yng Nghaerdydd yn Chwefror 1935 a'i fagu yn Rhiwbeina.
Y llynedd enillodd Dlws Coffa Aled Roberts - gwobr sy'n cael ei chyflwyno i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i'r sector dysgu Cymraeg.
Treuliodd Gwilym Roberts 31 mlynedd fel athro Cymraeg mewn tair ysgol yn y brifddinas ac ar ôl iddo ymddeol yn 1991 aeth i ddysgu Cymraeg yn wirfoddol ym Mhatagonia am dair blynedd.

Gwilym Roberts yn cael ei gyflwyno gyda Thlws Coffa Aled Roberts gan Llinos, gweddw Aled Roberts
Bu hefyd yn gwirfoddoli yng Nghaerdydd am flynyddoedd - yn rhoi gwersi Cymraeg i bobl ifanc ac yn diwtor ar gyrsiau Grŵp Dysgwyr Cymdeithas yr Iaith.
Roedd Gwilym Roberts hefyd yn un o sylfaenwyr y Mudiad Meithrin yn 1971 a daeth yn gadeirydd ar y mudiad am gyfnod yn yr 80au.
Bu'n weithgar gyda phapur bro cyntaf Cymru 'Y Dinesydd' am flynyddoedd ac ar un adeg ef oedd y cadeirydd.
Yn 2007, cyhoeddodd Gwilym Roberts lyfr am ei fagwraeth, 'Atgofion Plentyndod am Riwbeina', gan roi'r elw tuag at Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008.

Roedd Gwilym Roberts [chwith] yn un o bedwar llywydd anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd yn 2019, gyda'r diweddar Emyr Edwards, Gaynor Jones ac Alun Guy
Roedd Gwilym yn ffigwr amlwg o fewn mudiad yr Urdd yng Nghaerdydd hefyd.
Arweiniodd Aelwyd yr Urdd Caerdydd rhwng 1959 a 1971 ac Adran Bentre'r Urdd yn Rhiwbeina am 15 mlynedd.
Bu hefyd yn un o Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro yn 2019.

Gwilym Roberts mewn dathliad diweddar i nodi 60 mlynedd ers cael safle parhaol i Ysgol Feithrin Rhiwbeina
Wrth roi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd ei fod yn "gymwynaswr a chawr o ddyn".
"Daeth yr Aelwyd a'r Adran â churiad calon newydd i fywyd Cymraeg ifanc Caerdydd ac yn ffocws i bob mudiad Cymraeg arall yn y brifddinas.
"Rydym yn ddyledus i Gwilym am ei amser a'i gefnogaeth dros y degawdau.
"Rydyn yn ddiolchgar iddo am ei ymroddiad a'i waith diflino gyda phlant a phobl ifanc Cymru, ac am gefnogi cenedlaethau o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd," ychwanegodd.
'Gwneud dim byd er mwyn ei hunan'
Roedd y cyn-athro a'r cerddor Alun Guy yn gyfaill agos i Gwilym Roberts.
"Roedd ei gyfraniad e'n enfawr, yn enwedig yng Nghaerdydd," meddai.
"Chlywais i ddim ohono fe'n bod yn negyddol erioed, doedd e ddim yn rhan o'i eirfa fe.
"Roedd e'n dyfalbarhau wrth ddysgu Cymraeg i bobl ac yn dod yn ffrindiau gyda nhw.
"Bydde fe'n ymfalchïo yn llwyddiant dysgwyr ac o ganlyniad fe fydden nhw yn rhoi o'u gorau.
"Fydde fe ddim yn gwneud dim byd er mwyn ei hunan. Roedd popeth roedd e'n ei wneud er mwyn hybu'r iaith a Chymreictod."