Llifogydd Sbaen: 'Allwch chi ddim deall pa mor wael yw'r sefyllfa'

Difrod SbaenFfynhonnell y llun, Gwenan Iolo
Disgrifiad o’r llun,

Y sefyllfa drwy lygaid Gwenan Iolo sy'n gwirfoddoli i glirio'r difrod

  • Cyhoeddwyd

Dywed merch o Gaerdydd sydd bellach yn byw yn Sbaen bod y sefyllfa yn Valencia wedi'r llifogydd sydyn yn "gwbl ofnadwy".

Mae Gwenan Iolo ymhlith y nifer o bobl leol sydd wedi bod yn gwirfoddoli ers y glaw trwm a'r llifogydd yr wythnos ddiwethaf.

Mae dros 200 o bobl wedi marw ac mae disgwyl i'r nifer godi eto.

"O'n i'n nhre Paiporta yn gwirfoddoli ddydd Sul - un o'r trefi sydd wedi'i tharo waethaf," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"Mae rhannau o dai ar goll, mae bywydau cyfan pobl allan ar y stryd.

"Dydyn nhw ddim wedi glanhau'r ceir yno i gyd eto - mae siŵr o fod mwy o gyrff yn y ceir.

"Mae'r meysydd parcio tanddaearol dal yn llawn dŵr... mi wnawn nhw siŵr o fod dynnu mwy o gyrff allan o'r llefydd yma.

"Gallwch chi ddim deall pa mor wael yw'r sefyllfa."

Ffynhonnell y llun, Gwenan Iolo
Disgrifiad o’r llun,

Y dasg yw symud popeth o ganol y ffordd fel bod pobl yn gallu gadael eu tai, medd Gwenan Iolo

Roedd yna ddicter mawr yn nhre Paiporta ddydd Sul wrth i'r Brenin Felipe VI a'i wraig ymweld, gyda nifer yn gweiddi "llofrudd" ac yn taflu pethau at y Prif Weinidog Pedro Sánchez.

Mae nifer yn flin na chafwyd digon o rybudd cyn y glaw na digon o gefnogaeth gan yr awdurdodau lleol a'r llywodraeth ers hynny.

"O'dd e'n eithaf hyll achos o'dd pobl yn flin iawn," ychwanegodd Gwenan Iolo.

"Dyma ddechrau'r dicter yn erbyn llywodraeth leol a'r llywodraeth.

"Y bobl leol sy'n trefnu popeth - nhw sy'n glanhau, symud ceir ac mae'r ffermwyr yn dod â thractors."

Ffynhonnell y llun, Gwenan Iolo
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenan Iolo bellach yn byw yn ardal Valencia yn nwyrain Sbaen

Ychwanegodd: "Pan 'nes i gyrraedd roedd y bobl leol wedi trefnu lle i gael bwyd a dŵr ynghanol y pentref ac roedd yna ddoctoriaid lleol.

"Lle chi'n dechrau? Rhaid cael y dŵr gymaint â chi'n gallu allan o'r llefydd parcio, symud y ceir, symud y coed, symud waliau tai cyfan o ganol y stryd - gan aros i'r bobl yna sydd â thractors, 4x4s a loris i'w tynnu nhw allan o'r ffordd."

Ffynhonnell y llun, Gwenan Iolo
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa wedi'r glaw trwm a'r llifogydd ddiwedd Hydref

Ychwanegodd Gwenan bod y dŵr yn llawn pethau peryglus ac un o'r prif dasgau yw sicrhau fod pobl yn gallu gadael eu cartrefi i nôl dŵr a bwyd.

Ddydd Sul bu'n rhaid iddi hi ac eraill oedd yn gwirfoddoli adael tua 16:30 yn sgil rhybudd coch am fwy o law, ond mae hi'n dweud y bydd hi'n bendant yn dychwelyd i helpu.

Ffynhonnell y llun, Gwenan Iolo
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gwenan ei bod hi a gwirfoddolwyr am barhau i helpu yn ystod yr wythnos

"Bydda i'n mynd yno gymaint â fi'n gallu," meddai.

"Mae rhai o fy ffrindiau wedi cymryd dyddiau bant o'r gwaith er mwyn gallu helpu.

"Mae pobl eraill yn mynd yna cyn neu ar ôl gwaith.

"Mae cymaint i 'neud dal i fod, a popeth ni'n gallu 'neud i helpu, 'nawn ni drio 'neud e."

Pynciau cysylltiedig