Carcharu dyn o Gaerdydd am ddymchwel achos llofruddiaeth

Cafodd Paul Richards ei garcharu am bedwar mis yn Llys y Goron Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn oedd ar reithgor wedi cael ei garcharu am bedwar mis am ddymchwel achos llofruddiaeth, wedi iddo wneud ymchwil ei hun ar y we.
Cafodd Paul Richards, 65, ei ddewis i fod yn rhan o reithgor mewn achos yn Llys y Goron Caerdydd, yn ymwneud â llofruddiaeth Daniel Rae.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Richards wedi tyngu llw a bod y rheithgor wedi cael cyfarwyddiadau gan farnwr yr achos i beidio â chynnal ymchwil eu hunain.
Roedd Richards, o Pentrebane Drive, Sain Ffagan, Caerdydd, wedi pledio'n euog yn flaenorol i gynnal ymchwil heb awdurdod tra'n rhan o reithgor ac o ddatgelu gwybodaeth wedi'i wahardd i aelodau eraill y rheithgor.
Canfod erthygl papur newydd
Tuag wythnos i mewn i'r achos llys, tra yr oedd yn ystafell y rheithgor, fe glywodd tywysydd Richards ef yn dweud wrth eraill ar y rheithgor am reol gyfreithiol sy'n cael ei defnyddio pan fydd mwy nag un person yn ymwneud â llofruddiaeth gyda'i gilydd.
Cafodd barnwr yr achos wybod ac mi gafodd ffôn Richards ei dynnu wrtho a'i archwilio.
Cyfaddefodd ei fod wedi dod o hyd i erthygl papur newydd o'r Guardian ar y pwnc ac felly o ganlyniad cafodd y rheithgor ei ddiswyddo a dewiswyd rheithgor newydd.
Cafodd Kieran Carter ei ganfod yn euog o lofruddiaeth yn ddiweddarach yn yr achos hwnnw ac fe gafodd dau berson arall ddedfrydau wedi'u gohirio am droseddau mewn cysylltiad â'r achos.

Fe wnaeth Paul Richards, 65, ddymchwel achos yn Llys y Goron Caerdydd, yn ymwneud â llofruddiaeth Daniel Rae
Yn amddiffyn, dywedodd Ruth Smith fod Richards wedi cymryd ei wasanaeth rheithgor "o ddifrif" a'i fod wedi cael trafferth gyda rhai o elfennau cyfreithiol yr achos.
"Nid yw'n gwadu'r ffaith iddo gael gwybodaeth gadarn am beidio ymchwilio i faterion a'i fod yn ymwybodol o'i ddyletswydd gyhoeddus fel rhan o'r panel rheithgor hwnnw," meddai.
"O dan yr amgylchiadau roedd yn teimlo allan o'i ddyfnder ac yn cael trafferth deall y cysyniad o lofruddiaeth ar y cyd a gan ei fod yn cymryd ei lw mor ddifrifol, dylai ei fod wedi siarad allan."
"Mae'n gyfres drist iawn o amgylchiadau sy'n gweld dyn 65 oed gerbron y llys, oedd wedi byw bywyd rhagorol yn y gorffennol.
"Mae wedi bod yn ddyn gweithgar sydd wedi ymfalchïo yn ei waith a'i safle yn y gymuned.
"Mae'n teimlo cywilydd mawr am ei ymddygiad."
'Anufudd-dod amlwg'
Wrth roi dedfryd o bedwar mis yn y carchar, disgrifiodd y Barnwr, Tracey Lloyd-Clarke, weithredoedd Richards fel "anufudd-dod amlwg i gyfarwyddiadau'r llys".
"Roedd hwn yn achos lle y gwnaethoch chi, gyda'r wybodaeth, yn fwriadol beidio ag ufuddhau i gyfarwyddyd y llys ac felly mae eich euogrwydd yn uchel," meddai'r barnwr.
"Rydych chi'n ddyn o gymeriad da, nid yn unig yn yr ystyr nad oes gennych chi unrhyw euogfarnau blaenorol, ond mae'r rhai sydd wedi ysgrifennu cyfeiriadau i chi yn eich canmol yn fawr."
"Dwi ddim yn meddwl bod angen i mi ddweud wrthych chi am ba mor ffôl oedd y penderfyniad hwnnw."
'Camddealltwriaeth o'r gyfraith'
Dywedodd y barnwr os na fyddai'r tywysydd wedi ei glywed yn siarad ag aelodau eraill y rheithgor, "efallai na fyddai hyn byth wedi dod i'r amlwg".
"Gallai dyfarniadau'r rheithgor yr oeddech chi'n aelod ohono fod wedi eu dychwelyd ar sail camddealltwriaeth o'r gyfraith."
"Dwi'n derbyn nad oeddech chi wedi'ch ysgogi gan faleis a bod y cyfrifoldeb o fod yn rheithiwr, yn enwedig mewn achos mor ddifrifol, wedi pwyso'n drwm arnoch chi."
"Ond dyna'n aml ydy profiad y rhai sy'n gwasanaethu ar reithgor ac nid yw'r llys yn ystyried y baich hwnnw'n ysgafn.
"Ond, mae rhesymau da iawn pam fod pobl yn cael cyfarwyddyd i beidio â chynnal eu hymchwil eu hunain.
Ychwanegodd y barnwr mai un o'r rhesymau hynny "yw mai'r barnwr yw'r unig berson sydd hefo'r awdurdod i esbonio'r gyfraith gywir sy'n rhaid i chi ei chymhwyso yn yr achos".
"Yma, roedd risg y gallech chi ac aelodau eraill y rheithgor fod wedi cael eich dylanwadu i beidio â chymhwyso'r gyfraith yn gywir."