Balchder wrth i hwyliau Melin Llynon droi unwaith eto
- Cyhoeddwyd
Melin Llynon ar Ynys Môn ydy'r unig felin wynt sy'n gweithio yng Nghymru, ar ôl i'r hwyliau ddechrau troi unwaith eto.
Cafodd y felin ei hadeiladu yn Llanddeusant yn 1775 er mwyn cynhyrchu blawd.
Y cogydd a'r dyn busnes, Richard Holt sy'n gyfrifol am y safle ac mae'n gobeithio gallu malu grawn yn y felin unwaith eto "un diwrnod".
Ar un adeg roedd 50 o felinau ar yr ynys, a'u gallu i gynhyrchu ceirch a haidd roddodd yr enw 'Môn Mam Cymru' iddi.
Pan ddaeth Richard Holt yn gyfrifol am Felin Llynon yn 2019, roedd y safle wedi cau.
Er bod y felin wedi ei hadfer yn yr 80au, roedd cyflwr yr adeilad wedi dirywio a'r hwyliau "wedi pydru".
"Pan 'di'r felin ddim yn troi mae'n dal dŵr achos pren 'di'r rhan fwyaf ohono fo," meddai Richard.
"Pan ges i survey ohono fo, 'naethon nhw ddeud i ni beidio defnyddio fo achos o'dd peryg gallai'r hwyliau syrthio ffwrdd.
"Am cwpl o flynyddoedd o'n i'n meddwl sut allan ni godi arian i drwsio fo ond o'dd o'n anodd achos y cyngor - dim fi - o'dd bia'r felin."
Yna fe benderfynodd Cyngor Môn eu bod nhw am drwsio'r felin ac mae Richard yn dweud ei fod yn benderfynol y bydd hwyliau'r felin yn troi am y "25 mlynedd nesaf, i'r person nesa' fydd yn cymryd o drosodd".
"O'dd Sir Fôn efo tir anhygoel i dyfu gwenith a bob math o graen a 'dan ni hefyd efo'r tywydd perffaith i falu - gwynt a glaw.
"O'dd gynnon ni bron i 50 melin wynt a bron i 50 melin ddŵr felly oeddan ni'n bwydo gweddill Cymru a dyna pam fod y teitl 'Môn Mam Cymru'... ma' hynna'n legacy a dwi isio trio dysgu pobl am hynny."
Mae Richard yn ddiolchgar i Gyngor Môn a chwmnïau lleol am adfer y safle ac mae ganddo gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.
"Fyswn i'n lyfio gallu tyfu gwenith ni'n hunain ar yr ynys unwaith eto un diwrnod a malu fo fan'ma.
"Mae 'na blania' ond ma'n mynd i gymryd amser."
Y gobaith ydy troi hwyliau'r felin bob penwythnos, pan mae'r tywydd yn ffafriol.
Y melinydd Lloyd Jones sy'n gyfrifol am wneud hynny.
Bu'n gweithio yn y felin rhwng 1999 a 2016 ac mae o'n "falch o fod yn ôl" meddai Richard Holt.
"Ma' Lloyd yn dod rhyw dair gwaith yr wythnos ond ma' gynnon ni hogia' ifanc yn dysgu.
"A dwi a Dad yn dysgu felly 'dan ni'n trio cael gymaint â phosib i ddysgu'r grefft hefyd."
Mae Richard Holt yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn cael eu denu i Felin Llynon ac yn dysgu'r hanes.
"Mae 'chydig o responsibility arnan ni fel ynys i weiddi am hyn mwy a dysgu pobl eraill amdano fo.
"Pa mor awesome fysa fo os fysa ffermwyr yn dechrau tyfu gwenith eto a'r caeau i gyd yn aur eto?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd25 Awst 2020