Mynediad at ofal iechyd yn 'ynysu' rhai pobl anabl
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 30 o bobl anabl wedi dweud wrth raglen BBC Wales Live eu bod yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth geisio cael mynediad at ofal iechyd.
Yn eu plith mae Elin Williams o Sir Conwy, sy’n byw gyda chyflwr llygad dirywiol, ac sydd wedi rhannu ei phryderon am y diffyg hygyrchedd sydd o’i chwmpas wrth gael gofal iechyd.
Mae Dylan Thomas o Chwilog hefyd wedi rhannu ei bryder ynghylch diffyg ymwybyddiaeth rhai meddygon am gyflyrau llai amlwg.
Yn ôl sefydliad Anabledd Cymru, mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn nodi mai rhwystrau amgylcheddol, sefydliadol ac agweddau pobl sy'n atal pobl anabl rhag cyfrannu'n llawn mewn cymdeithas - nid eu cyflyrau meddygol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "siomedig iawn clywed y straeon hyn".
"Mae ein Tasglu Hawliau Anabledd yn gweithio gyda phobl anabl a sefydliadau i wneud argymhellion i wella bywydau pobl anabl yng Nghymru," meddai.
'Gallu bod reit anodd'
Mae Elin Williams yn gweithio i gymdeithas Anabledd Cymru ac mae ganddi hi gyflwr o’r enw Retinitis Pigmentosa.
Fe soniodd am un achos lle’r oedd hi’n gorfod gofyn i rywun arall ddarllen gwybodaeth bersonol amdani gan nad oedd y llythyr wedi’i anfon mewn modd hygyrch, er ei bod wedi gwneud cais i gael llythyr hygyrch.
“Mae gen i’r hawl i’w ddarllen gyntaf," meddai.
"Mae diffyg hygyrchedd o ran cael gwybodaeth, llythyrau ac apwyntiadau ddim yn cael eu hanfon mewn modd hygyrch.
“Mae byw fel person anabl mewn byd sydd ddim wedi cael ei ddyfeisio ar fy nghyfer i, mae’n gallu bod reit anodd ar brydiau.
"Mae’r diffyg hygyrchedd o fy nghwmpas yn ffactor mawr at hynny ac wedi arwain at gyfnodau o deimlo fy mod wedi cael fy ynysu o gymdeithas ar y cyfan."
Ychwanegodd mai prin iawn ydy’r enghreifftiau positif o hygyrchedd pan ddaw at ofal iechyd i bobl anabl.
Dywedodd: “Mae nifer o’n haelodau ni’n dweud am y cymaint o rwystrau sy’n eu hwynebu nhw, ac mae’n effeithio ar sut maen nhw’n teimlo o ran eu lle nhw mewn cymdeithas a’u lle nhw i gael gwasanaethau cyfartal.”
Profiadau gan ragor o bobl
Mae enghreifftiau gan bobl anabl a rannwyd gyda BBC Wales Live yn cynnwys:
Dynes sy'n dweud iddi dalu am ofal iechyd preifat ar ôl i feddygon wrthod ei sylwadau yn nodi nad oedd symptomau newydd oedd ganddi yn rhan o'i hanabledd. Ar ôl cael profion preifat, gafodd gadarnhad ei bod yn gywir;
Dynes yn dweud bod diffyg ffyrdd o gysylltu â'i meddyfa yn ei hatal rhag cysylltu â nhw. Yn ddiweddar ffoniodd hi 339 o weithiau cyn cael ateb;
Dynes fyddar yn honni bod ysbyty wedi canslo dehonglwyr iaith arwyddo iddi, gan eu bod wedi ei gweld yn siarad. Roedden nhw wedi cymryd yn ganiataol y gallai ddarllen gwefusau.
'Meddwl mod i’n gwneud yr holl beth fyny'
Un arall sydd wedi wynebu sawl her pan ddaw at ofal iechyd ydy Dylan Thomas o Chwilog.
Mae Dylan yn byw gyda chyflwr Dystonia, sy’n achosi i gyhyrau’r corff symud yn afreolus, sy’n gallu bod yn boenus iawn ar adegau.
Dywedodd fod rhai cyfnodau lle nad yw’n gallu symud o gwbl.
“Oedd lot o feddygon, dwi’n meddwl, erioed wedi clywed am y cyflwr," meddai.
"Felly pan o’n i’n cael y trawiadau yma neu’r cyfnodau yma o ffitiau, oeddwn i’n gweld o'n y nodiadau bod nhw’n meddwl mod i’n 'neud yr holl beth fyny.
“Oedd o’n ddigalon, o’n i’n teimlo fel hogyn bach eto.
“Ers i mi gael diagnosis, mae pethau wedi gwella.
"Mae’r profiadau wedi bod yn rhyfedd iawn - un ai cael fy anwybyddu, neu rywun yn dweud mod i’n 'neud o fyny.
“Pan mae gen ti gyflwr sydd ddim yn gyfarwydd iawn i lot o bobl, mae hynny yn mynd i ddigwydd.
"Ond dydi hynny ddim yn rhoi’r hawl i bobl feddygol drin rhywun, a deud wrth rywun, mor ddifeddwl.”
'Siomedig iawn'
Wrth ymateb i achos Dylan, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nad oedden nhw'n gallu ymateb i achosion unigol, ond yn ôl Dylan, fe dderbyniodd lythyr yn ymddiheuro yn dilyn ei gyfnod yn yr ysbyty.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’n siomedig iawn clywed y straeon hyn ac rydym yn disgwyl i bobl ag anableddau gael eu clywed a’u trin â pharch pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau’r GIG.
“Mae ein Tasglu Hawliau Anabledd yn gweithio gyda phobl anabl a sefydliadau i wneud argymhellion i wella bywydau pobl anabl yng Nghymru.
"Mae gwella mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a herio enghreifftiau o eithrio a’i effeithiau niweidiol, yn brif flaenoriaethau i’r grŵp.
“Trwy Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth i Bobl â Nam ar y Synhwyrau, rydym hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod anghenion cyfathrebu a gwybodaeth cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, rhieni a gofalwyr yn cael eu diwallu’n gyson wrth gael mynediad at ofal iechyd.
"Mae gwaith yn mynd rhagddo i roi argymhellion yr adolygiad hwn ar waith.”