Dau wasanaeth tân i gael eu hadolygu'n annibynnol

  • Cyhoeddwyd
Ymladdwr tânFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i'r diwylliant o fewn dau wasanaeth tân ac achub arall yng Nghymru.

Dywed y ddau - y naill yn y gogledd a'r llall yn y canolbarth a'r gorllewin - eu bod am benodi pobl ar frys i gynnal yr adolygiadau yn sgil honiadau o "fwlio, aflonyddu rhywiol a ffafriaeth".

Yn ôl y Gweinidog Lles Cymdeithasol, Hannah Blythyn, mae angen tawelu meddyliau'r cyhoedd.

Mae disgwyl i'r ddau wasanaeth gyhoeddi casgliadau'r ymchwiliadau erbyn yr hydref.

Amlinellu disgwyliadau

Daw'r cyhoeddiad wedi i gomisiynwyr gael eu penodi i redeg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn dilyn adroddiad beirniadol wnaeth ganfod diwylliant o aflonyddu rhyw.

Roedd yna alwadau yn sgil yr adroddiad hwnnw, gan Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr, am adolygiad annibynnol i'r ddau wasanaeth arall hefyd, ac fe ddywedodd Ms Blythyn ar y pryd ei bod yn disgwyl i'w penaethiaid ystyried ei ganfyddiadau.

Dywedodd ddydd Llun ei bod wedi trefnu i gyfarfod gyda'r ddau brif swyddog tân, gan amlinellu ei disgwyliadau o ran y diwylliant o fewn y gweithle.

Disgrifiad o’r llun,

Ymddiswyddodd prif swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway, ym mis Ionawr yn dilyn adolygiad damniol i'r diwylliant yno

Mewn datganiad dywedodd ei bod wedi derbyn gohebiaeth gan weithwyr a chyn-weithwyr y ddau wasanaeth yn cynnwys "honiadau o fwlio, aflonyddu rhywiol a ffafriaeth o ran rhoi dyrchafiad".

Ychwanegodd bod angen tawelu meddyliau'r cyhoedd o ran diwylliant a dulliau rheoli'r ddau wasanaeth, a bod angen rhoi sicrwydd i aelodau staff "bod gyda nhw fodd diogel ac effeithiol i rannu eu profiadau - da a drwg - o fewn y gweithle".

'Polisi dim goddefgarwch'

Mae'r ddau wasanaeth wedi croesawu'r cyhoeddiad.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Prif Swyddog Tân y Canolbarth a'r Gorllewin, Roger Thomas, eu bod wedi cynnal archwiliad i'r diwylliant yno eisoes, ond y byddan nhw'n cydweithio gyda'r llywodraeth ar y mater.

Mynnodd bod gan y gwasanaeth "bolisi dim goddefgarwch at unrhyw fath o atgasedd at fenywod, hiliaeth, bwlio nac ymddygiad amhriodol".

Roedd hefyd eisiau rhoi sicrwydd i'r cyhoedd y bydd y broses yn cael ei thrin "gyda gonestrwydd ac yn dryloyw".

Disgrifiad o’r llun,

Prif Swyddog Tân y Gogledd, Dawn Docx yn rhoi tystiolaeth i un o bwyllgorau Senedd Cymru ddydd Llun

Dywedodd Prif Swyddog Tân y Gogledd, Dawn Docx fod lles staff yn hollbwysig, ac y dylen nhw deimlo'n gyfforddus yn codi unrhyw bryderon oedd ganddyn nhw.

Roedd Ms Docx ymhlith nifer o uwch swyddogion y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru a roddodd dystiolaeth brynhawn Llun i bwyllgor yn Senedd Cymru oedd yn trafod y mater.

Fel rhywun sydd wedi gweithio i dri gwasanaeth tân gwahanol, dywedodd nad yw'r diwylliant yn berffaith ond mae camau'n cael eu cymryd i'w wella.

Yn y gogledd, er enghraifft, dywedodd bod cael canran uwch o staff benywaidd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr wrth drio gwella'r diwylliant yno.

Pynciau cysylltiedig