Teyrngedau i gyn-arweinydd nyrsys Cymru, Tina Donnelly

Tina DonnellyFfynhonnell y llun, RCN
Disgrifiad o’r llun,

Tina Donnelly oedd arweinydd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru rhwng 2004 a 2018

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-gyfarwyddwraig Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Tina Donnelly wedi marw yn 71 oed.

Ms Donnelly oedd arweinydd nyrsys yng Nghymru o 2004 nes ei hymddeoliad yn 2018.

Dywedodd ei holynydd ei bod "yn nyrs aruthrol i'w chymryd o ddifri" oedd wedi gwasanaethu "ar draws y byd".

Yn ôl y Cyfarwyddwr Gweithredol presennol, Helen Whyley, fe lwyddodd i "wella bywyd gwaith staff nyrsio a gofal cleifion ble bynnag yr aeth".

Fe dorrodd dir newydd, meddai, yn y maes polisïau nyrsio pan ddaeth deddfwriaeth i rym yng Nghymru yn 2016 i sichau lefelau staff nyrsio o fewn y GIG i ddarparu gofal nyrsio diogel a safonol.

Gan gydymdeimlo gyda'i theulu Ms Donnelly, ychwanegodd Ms Whyley bod y proffesiwn wedi etifeddu ei "dewrder, tosturi ac ymroddiad" i'r maes.

'Colled fawr'

Bu Ms Donnelly'n filwr wrth gefn gyda Gwasanaethau Meddygol y Fyddin am 25 mlynedd gan wasanaethu yn Irac ac Affganistan.

Roedd yn aelod o fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac yn gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer nifer o elusennau.

Yn 2014 dyfarnwyd CBE iddi am ei gwasanaethau i nyrsio, y lluoedd arfog a'r undebau llafur.

Fe wasanaethodd hefyd fel Uchel Siryf Morgannwg Ganol.

Dywed ei theulu iddi farw'n dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar ddydd Sul 24 Awst.

Mewn datganiad dywedodd ei theulu y byddai'n "cael ei chofio'n annwyl" a bod ei marwolaeth "yn golled fawr i'r teulu cyfan".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig