'Mae'n obsesiwn!': Penodi menyw gyntaf bwrdd Hufenfa De Arfon

Disgrifiad,

"Mae'r hufenfa 'di bod yn rhan o'n teulu ni ers dwy, tair cenhedlaeth," meddai Malan Hughes

  • Cyhoeddwyd

Mae Hufenfa De Arfon wedi penodi aelod benywaidd i'r bwrdd am y tro cyntaf.

Mae Malan Hughes yn filfeddyg o ardal Pwllheli. Cafodd ei magu ar fferm laeth ei theulu, ac mae ganddi gysylltiadau clos â'r hufenfa.

Hi fydd y fenyw gyntaf ar fwrdd y cwmni llaeth cydweithredol ym Mhen-Llŷn ers ei ffurfio yn 1938, gan ddilyn olion traed ei thad a'i thaid a fu hefyd yn aelodau.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru, dywedodd Ms Hughes: "Mae'n rhan fawr o fywyd pobl yn yr ardal yma.

"Dwi wastad wedi cymryd diddordeb ers oeddwn i'n hogan fach, gyno fi diddordeb chydig bach yn annaturiol 'wrach gyda'r hufenfa.

"Pan o'n i'n yr ysgol ges i gyfle gwneud prosiect busnes TGAU ar yr hufenfa, prosiect Cymraeg ar yr hufenfa, unrhyw gyfle o'n i'n cael yr hufenfa o'n i isio'i drafod."

'Rhan o'r teulu'

Mae'n falch iawn o gysylltiadau ei theulu gyda'r cwmni: "O'dd 'y nhaid a'n nhad ar y bwrdd.

"Mae'r hufenfa 'di bod yn rhan o'n teulu ni ers dwy, tair cenhedlaeth, taid o'r ddwy ochr - tad mam a tad dad - yn gweithio i'r hufenfa."

Disgrifiad o’r llun,

"Fedrwch chi ddweud bod genai obsesiwn," dywedodd Malan Hughes wrth sôn am ei brwdfrydedd dros yr hufenfa

Teimla Ms Hughes y bydd ei chefndir milfeddygol o fudd i aelodau'r hufenfa.

"Mae pob un fuwch sy'n cael ei godro ar gyfer y llaeth sy'n mynd i hufenfa yn goro' cael gwahanol dests a'r ffermwyr yn gorfod gofalu amdanyn nhw mewn ffyrdd arbennig," meddai

"Ac felly 'wan gan bod fi ar y bwrdd bydd yr hufenfa fwy ymwybodol efallai o newidiadau gydag iechyd anifeiliaid a byddai'n gallu helpu efo hwnna gobeithio."

'Obsesiwn'

Mae ei brwdfrydedd am y lle yn amlwg: "Dwi just yn mwynhau mynd o gwmpas y lle, dwi 'di bod yn pob un diwrnod agored.

"Ond wrth gwrs rŵan dwi'n cael mynd o gwmpas bob mis i weld beth sy'n mynd ymlaen yna a dod i 'nabod y staff, felly dwi wrth fy modd gyda'r lle, fedrwch chi ddweud bod genai obsesiwn.

"Mae'r hufenfa ryw hanner milltir i lawr Afon Erch o le dwi'n byw felly yn teimlo fatha rhan o'm mywyd i beth bynnag,

"Dwi'n gweithio hefyd o fewn milltir o'r hufenfa felly ma' mywyd i'n cylchdroi o gwmpas yr hufenfa mewn ffordd."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alan Wyn Jones, rheolwr gyfarwyddwr yr hufenfa, y bydd arbenigedd Malan Hughes o fydd i'w haelodau

Bydd Ms Hughes yn cymryd lle Gareth Jenkins o Bencaenewydd, sy'n ymddeol o'r bwrdd ar ôl 28 mlynedd.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr yr hufenfa, Alan Wyn Jones: "Hoffwn groesawu Malan i'r Bwrdd, yn enwedig o ystyried mai hi yw'r fenyw gyntaf i fod yn y rôl hon.

"Bydd yn gaffaeliad mawr gyda'i gwybodaeth a'i harbenigedd a fydd yn bwysig i waith Hufenfa De Arfon."

Pynciau cysylltiedig