Thomas i arwain tîm 'cryf' yn y Giro d'Italia
- Cyhoeddwyd
Mae Geraint Thomas yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at arwain tîm “cryf” Ineos Grenadiers yn y Giro d'Italia.
Mae cyn-bencampwr y Tour de France, 37, yn targedu’r ddau ‘Grand Tour’ yn 2024 ar ôl dod yn ail yn yr Eidal 12 mis yn ôl.
Mae Ineos hefyd wedi cynnwys Thymen Arensman a Tobias Foss – sydd wedi gorffen ymhlith 10 uchaf y Giro yn y gorffennol – yn eu carfan ar gyfer y ras eleni, a fydd yn dechrau yn Torino ddydd Sadwrn, 4 Mai.
"Mae gennym ni dîm cryf ac mae'r grŵp yma yn un agos," meddai Thomas.
“Mae’r craidd yr un fath â thîm Giro y llynedd, gyda rhai ychwanegiadau gwych ar gyfer eleni.
"Rydyn ni wedi treulio llawer o amser gyda'n gilydd mewn gwersyll hyfforddi, rydyn ni'n gwybod beth sydd angen i ni ei wneud ac rydyn ni i gyd yn awyddus i gyflawni'r dasg o’n blaenau."
'Bod yn ymosodol'
Bydd Thomas yn cystadlu yn ei chweched Giro d’Italia - ras sydd wedi bod yn boenus iddo yn y gorffennol wrth ddioddef damweiniau yn 2017 a 2020 cyn gorffen yn ail o drwch blewyn yn 2023.
Roedd y Cymro'n gwisgo crys ‘Maglia Rosa’ yr arweinydd tan y cymal olaf ond un pan gafodd ei guro gan Primož Roglič, a gipiodd y teitl cyffredinol o 15 eiliad yn unig.
Ni fydd Roglič yn amddiffyn ei deitl yn 2024 ond gŵr arall o Slofenia yw'r ffefryn eleni.
“Yn amlwg Tadej Pogačar yw’r ffefryn cyn y ras ac mae ganddo dîm cryf o’i gwmpas, ac mae hynny’n newid deinameg y ras ychydig,” meddai Thomas.
“Ond mae hynny hefyd yn golygu y bydd pob llygad arno dros dair wythnos hir o rasio caled.
“Ein cynllun yw bod yn ymosodol, cymryd y ras ymlaen a chwilio am bob cyfle i ychwanegu pwysau a chymryd amser.”
'Dwi’n teimlo’n dda'
Pogacar enillodd y Tour de France yn 2020 a 2021, a fe oedd yn ail yn 2022 a 2023 – ond dyw e heb ennill y Giro eto.
Roedd beiciwr Tîm UAE yn fuddugol yng nghystadleuaeth glasurol Liege-Bastongne-Liege yr wythnos ddiwethaf, ar ôl ennill Strade Bianche a’r Vuelta Ciclista a Catalunya hefyd.
Roedd Thomas yn 27ain yng Nghatalwnia ac yn 13eg yn gynharach y mis hwn ar Daith yr Alpau.
“Gyda’r cynllun i rasio’r Giro ac yna mynd yn syth i mewn i’r Tour [de France], mae yna agwedd wahanol ac adeiladu arafach y tymor hwn,” meddai.
“Ond dwi’n teimlo’n dda a ddim yn meddwl y tu hwnt i’r wythnosau nesaf yn yr Eidal.
"Fy unig ffocws nawr yw’r Giro a chyrraedd yno yn fy siâp gorau posib.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2023
- Cyhoeddwyd18 Ebrill
- Cyhoeddwyd22 Ionawr