Cadeirydd adolygiad mamolaeth Abertawe yn camu'n ôl

Ysbyty SingletonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon wedi codi dros amser ynghylch gwasanaethau ar gyfer merched beichiog a babanod newydd-anedig yn Ysbyty Singleton

  • Cyhoeddwyd

Mae'r bargyfreithiwr a oedd yn arwain adolygiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth yn ardal Abertawe wedi camu o'r neilltu yn dilyn galwadau gan rai teuluoedd am ei hymddiswyddiad.

Cafodd Margaret Bowron KC ei phenodi gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe ym mis Ionawr yn dilyn pryderon, dros gyfnod o amser, am y gofal a gafodd mamau beichiog a babanod newydd-anedig yn Ysbyty Singleton yn y ddinas.

Dywedodd yn ei llythyr ymddiswyddo ei bod yn "edifar" camu o'r neilltu.

"Fe dderbyniais y gwahoddiad i gadeirio'r adolygiad... a fyddai'n gweithredu'n gwbl annibynnol o'r bwrdd iechyd... er mwyn canolbwyntio ar adennill hyder cleifion mewn gwasanaethau lleol," ysgrifennodd.

"Ond rwyf wedi dod i sylweddoli bod fy mhenodiad yn tynnu sylw oddi ar y nod.

"Rwyf wedi dod i'r casgliad, yn gyndyn iawn, bod angen i'r awenau gael eu cymryd cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan berson arall a all ddatblygu'r rôl heb dynnu sylw o'r fath."

Fe gafodd Mrs Bowron ei beirniadu ar gyfryngau cymdeithasol gan rai teuluoedd yn dilyn ei phenodiad.

Yn ei llythyr ymddiswyddo dywedodd fod ymddwyn "gyda charedigrwydd a chwrteisi" mewn sefyllfa mor ofidus yn "heriol iawn i ni gyd".

Ond fe ategodd: "Nid wyf yn beirniadu ymddygiad a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol y rhai sydd wedi galw am fy ymddiswyddiad."

Ffynhonnell y llun, Sian Channon
Disgrifiad o’r llun,

Gethin Channon, a gafodd ei eni gyda pharlys yr ymennydd, gyda'i fam Sian

Mae rhieni Gethin Channon, a gafodd ei eni gyda pharlys yr ymennydd yn 2019, ymhlith y rhai sydd wedi bod yn feirniadol o Mrs Bowron.

Dywedodd Rob Channon, tad Gethin, bod y teulu wedi bod yn llafar ar y cyfryngau cymdeithasol ond nad y bwriad oedd "dechrau brwydr â Margaret Bowron".

Roedd teuluoedd, meddai, wedi gofyn am gyfarfod gyda hi pan gafodd ei phenodi, ond roedden nhw'n anhapus â'i hymateb.

"Deilliodd y cyfan o hynny," dywedodd.

Mae'r teulu'n mynnu fod nifer o deuluoedd eraill wedi bod yn anhapus â sut y dewisodd Mr Bowron ymgymryd â'r rôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Erbyn hyn mae'r bwrdd iechyd wedi gofyn i Dr Denise Chaffer, aelod presennol o'r panel goruchwylio, gymryd yr awenau dros dro fel cadeirydd yr adolygiad annibynnol.

Yn ôl y bwrdd iechyd mae Dr Chaffer yn "arweinydd profiadol yn y maes mamolaeth a diogelwch cleifion" heb unrhyw gysylltiad blaenorol â Bae Abertawe.

Dywedodd Dr Chaffer: "Bydd clywed llais rhieni a grwpiau ehangach yn ganolog i'm dull o weithredu, er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni newid ystyrlon gyda'n gilydd.

"Y camau nesaf fydd cwrdd ag ystod o ddefnyddwyr gwasanaethau i glywed a thrafod eu barn am yr adolygiad hwn a symud ymlaen."

Dywedodd Jan Williams, cadeirydd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe: "Hoffem ddiolch i Mrs Bowron am y gwaith a wnaeth wrth sefydlu'r Panel Goruchwylio a chwblhau'r Cylch Gorchwyl yn dilyn cyfnod gwrando gafodd fewnbwn gan ddefnyddwyr gwasanaeth a staff.

"Fe fydd gwaith yr adolygiad ei hun, sy'n cael ei gynnal gan dîm adolygu cwbl annibynnol... yn cyflymu dros yr wythnosau nesaf."

Pynciau cysylltiedig