Statws monitro uwch i wasanaethau mamolaeth ardal Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau i famau a babanod newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cael eu gosod dan lefel ychwanegol o oruchwyliaeth gan y Gweinidog Iechyd.
Yn ôl Eluned Morgan mae hyn yn dilyn pryderon sydd wedi cael eu hamlygu gan deuluoedd dros y misoedd diwethaf.
Mae'r penderfyniad yn golygu fod gwasanaethau mamolaeth yn y bwrdd wedi codi o "drefniadau arferol" i "statws monitro uwch".
Mae'r bwrdd iechyd wedi mynd cam ymhellach a chyhoeddi eu bod yn comisiynu adolygiad annibynnol o'u gwasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol, gyda'r disgwyl y bydd y gwaith yn cymryd 10 mis i'w gwblhau.
Bydd yn edrych ar brofiadau cleifion ers Ionawr 2019 a phrofiadau staff ers Ionawr 2021 ynghyd â materion fel arweinyddiaeth, diwylliant sicrhau ansawdd a threfniadau llywodraethu.
Trefniadau Llywodraeth Cymru i oruchwylio'r GIG
O leiaf ddwywaith y flwyddyn, mae argymhellion yn cael eu gwneud i'r Gweinidog Iechyd pa lefel o oruchwyliaeth sy'n addas ar gyfer y gwahanol sefydliadau iechyd.
Gallai bwrdd iechyd cyfan neu wasanaethau penodol gael eu gosod dan wahanol lefelau o oruchwyliaeth yn dibynnu ar pa mor ddifrifol yw'r problemau neu'r pryderon.
Mae yna bedwar lefel o oruchwyliaeth:
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Eluned Morgan: "Dros y misoedd diwethaf, mae'r Aelodau a theuluoedd wedi tynnu sylw at faterion ynglŷn â'r gwasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
"Heddiw, rwy'n amlinellu'r gwaith y mae swyddogion wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r pryderon hyn.
"Er mwyn cael sicrwydd pellach, rwy'n cyhoeddi fy mod yn uwchgyfeirio'r gwasanaethau i statws monitro uwch.
"Bydd hyn yn sicrhau bod gan y bwrdd y cymorth cynhwysfawr sydd ei angen arno i gyflawni'r cynlluniau gwella y mae wedi'u datblygu a bydd yn sicrhau bod swyddogion mewn sefyllfa dda i asesu'r cynnydd a wneir. Mae'r bwrdd wedi croesawu'r penderfyniad hwn."
Mae disgwyl hefyd y bydd adroddiad beirniadol o gyflwr gwasanaethau mamolaeth y bwrdd yn cael ei gyhoeddi gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ddiweddarach yr wythnos hon yn dilyn ymweliad dirybudd gan arolygwyr ym mis Medi.
Ar ôl yr ymweliad hwnnw nodwyd methiannau allai olygu risg i gleifion.
Mewn llythyr i'r bwrdd iechyd rai diwrnodau wedyn, galwodd yr Arolygiaeth am welliannau brys gan ddweud:
"Yn ystod ein harolygiad, gwelsom feysydd o bryder a allai beri pryder ar unwaith [a] risg i ddiogelwch cleifion...
"Oherwydd difrifoldeb y pryderon hyn, bydd angen i chi ddweud wrthym am y camau gweithredu rydych wedi, neu'n cymryd i fynd i'r afael â hyn, ac yn sicrhau diogelwch cleifion yn cael ei ddiogelu."
Mae papurau Bwrdd Iechyd Bae Abertawe hefyd yn amlygu gwasanaethau mamolaeth sydd dan bwysau sylweddol.
Mae hyn yn cynnwys pryderon nad yw sganiau uwchsain penodol yn cael eu cyflawni mewn amser priodol a sôn hefyd am brinder staff sylweddol.
Mae tua 3,500 o fabanod yn cael eu geni bob blwyddyn yn ardal y bwrdd, a 95% o'r rhain yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Mae'r uned yn yr ysbyty yn un o 10 yng Nghymru sy'n cynnig gwasanaeth genedigaeth sydd wedi'i arwain gan feddygon ymgynghorol.
'Diffyg llais i famau'
Mae un teulu sydd wedi bod yn ymgyrchu am welliannau yng ngwasanaethau i famau a babanod ym Mwrdd Iechyd Abertawe ers genedigaeth eu mab yn 2019.
Fe gafodd Gethin Channon barlys yr ymennydd yn dilyn problemau yn ystod ei enedigaeth yn 2019.
Dywedodd ei fam, Sian, sy'n byw yn Sgeti, fod ei mab wedi cael ei amddifadu o ocsigen am gyfnod yn ystod y cyfnod esgor a bod amryw o gyfleoedd wedi'u methu i adfer y sefyllfa.
Yn ôl Mrs Channon dim ond sawl mis yn ddiweddarach y cafodd wybod bod camgymeriadau wedi digwydd.
"Y peth mwyaf pryderus yw'r diffyg llais sy'n cael ei roi i famau," meddai.
"Doedden ni ddim yn ymwybodol o'r hyn oedd yn digwydd pan oedd Gethin yn cael ei eni.
"Pe baem ni wedi deall y termau [meddygol] oedd yn cael eu defnyddio, bydden ni ein hunain wedi dweud 'mae angen i chi wneud rhywbeth gwahanol'."
Amlygwyd pryderon difrifol am yr achos gan Dr Bill Kirkup, ymchwilydd profiadol a arweiniodd ymchwiliadau i ofal mamolaeth a newydd-anedig ym Mae Morecambe a Dwyrain Caint.
Dywedodd Mrs Channon ei bod wedi clywed ers hynny gan rieni eraill sydd wedi bod yn anhapus gyda'r gofal gafon nhw.
"Rydyn ni wedi cael rhieni yn siarad â ni sydd wedi gofyn am y nodiadau meddygol er mwyn darganfod y gwir am yr hyn ddigwyddodd i'w plentyn.
"Mae yna famau a babanod sydd wedi eu niweidio'n barhaol yn ystod genedigaethau anodd. Ac yn amlwg rydym hefyd yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle mae'r fam neu'r babi wedi marw.
"Rydyn ni'n siarad gyda rhieni sydd wedi cael plant ers i Gethin gael ei eni."
Mae'r teulu'n cydnabod bod yna welliannau diweddar i'r gwasanaeth ond yn poeni am ddiffyg cynnydd ers i broblemau gael eu hamlygu ddwy flynedd yn ôl.
Mae'r teulu hefyd yn galw am oruchwyliaeth genedlaethol o safon gwasanaethau mamolaeth yn y bwrdd iechyd.
Lleddfu 'pwysau staffio difrifol'?
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Rydym yn croesawu'r cymorth ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i ni dros y misoedd nesaf wrth i ni barhau i gryfhau ein gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig sydd wedi wynebu pwysau staffio difrifol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf."
Ychwanegodd llefarydd bod 23 o fydwragedd ac 14 o gynorthwywyr gofal bydwreigiaeth newydd wedi eu recriwtio ers mis Hydref.
Mae'r bwrdd iechyd hefyd, meddai, yn paratoi i "ailagor ein Canolfan Geni yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac ailddechrau ein gwasanaeth Geni yn y Cartref yn dilyn buddsoddiad ychwanegol o £750k a gyhoeddwyd gennym ym mis Hydref".
"Bydd ailddechrau'r gwasanaethau hyn yn sicrhau y gallwn ddarparu mwy gofal priodol, yn gwella dewis ac yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar y gwasanaeth mamolaeth yn Ysbyty Singleton."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018