Ynys Môn: Arestio menyw ar ôl adroddiadau o berson ag arf

Ysgol morswyn
Disgrifiad o’r llun,

Bu Ysgol Morswyn mewn cyfnod clo ddydd Llun o ganlyniad i'r digwyddiad yn yr ardal

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu ar Ynys Môn wedi arestio dynes leol yn ei 20au ar amheuaeth o fod ag arf ymosodol yn ei meddiant.

Yn gynharach ddydd Llun cafodd dwy ysgol gynradd yng Nghaergybi eu cloi i lawr am gyfnod byr yn sgil adroddiadau fod person wedi cael eu gweld yn y dref yn cario bwyell.

O ganlyniad roedd 'na batrolau ychwanegol a "phresenoldeb heddlu gweladwy" yn y dref gan Heddlu'r Gogledd.

Wedi i'r ddynes gael ei harestio, fe wnaeth llefarydd ar ran yr heddlu ddiolch i'r cyhoedd oedd wedi cysylltu â nhw gyda gwybodaeth.

Ysgol Kingsland
Disgrifiad o’r llun,

Cadarnhaodd Cyngor Ynys Môn fod Ysgol Gymraeg Morswyn ac Ysgol Kingsland wedi cael eu cloi i lawr yn gynharach yn y dydd

"Da ni'n sylweddoli faint o bryder mae hyn wedi'i achosi, a buasem yn hoffi tawelu meddwl y gymuned fod swyddogion yn parhau ar batrôl troed yn yr ardal leol," meddai'r llu.

"Gan fod ymchwiliad byw yn parhau, buasem yn gofyn i'r cyhoedd beidio dyfalu amgylchiadau'r digwyddiad."

Cadarnhaodd Cyngor Ynys Môn fod Ysgol Gymraeg Morswyn ac Ysgol Kingsland wedi cael eu cloi i lawr yn gynharach yn y dydd "am gyfnod byr iawn".

'Mesurau mewn lle am gyfnod byr'

Mewn datganiad dywedodd y cyngor: "Roedd y mesurau yn eu lle am gyfnod byr iawn ac fe agorodd y ddwy ysgol, gan fynd yn ôl i'r diwrnod arferol, unwaith yr oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau ei bod hi'n ddiogel i wneud hynny.

"Drwy gydol y cyfnod hwn, dilynodd yr ysgolion y canllawiau a'r gweithdrefnau perthnasol.

"Bu'r staff weithredu mewn modd cyflym a phriodol wrth i ddiogelwch disgyblion a staff barhau'n flaenoriaeth bob amser.

"Hoffai Cyngor Sir Ynys Môn ddiolch i ddisgyblion, rhieni a staff ynghyd ȃ chymuned ehangach yr ysgol am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth.

"Rydym hefyd yn ddiolchgar i Heddlu Gogledd Cymru am eu cefnogaeth a chymorth."

Pynciau cysylltiedig