Prif hyfforddwr Casnewydd yn gadael ei swydd

Roedd Nelson Jardim wedi bod wrth y llyw yng Nghasnewydd ers haf 2024
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi gadael y clwb ar ôl llai na thymor wrth y llyw.
Fe wnaeth Nelson Jardim, 46 oed o Bortiwgal, gymryd yr awenau yn dilyn ymadawiad Graham Coughlan yn haf 2024.
"Rydw i wedi 'nabod Nelson am 15 o flynyddoedd ac rydym wastad wedi bod yn agored ac yn onest gyda'n gilydd," meddai cadeirydd y clwb, Huw Jenkins.
"Roedd yn teimlo mai dyma'r peth gorau iddo ef ac i'r clwb symud ymlaen, gyda dim ond dwy gêm yn weddill."
Mae'r clwb yn yr 20fed safle yn Adran Dau, ac yn ddiogel rhag disgyn i'r Gynghrair Genedlaethol.
'Newid er lles y clwb'
Dywedodd Jardim wrth BBC Cymru yr wythnos ddiwethaf ei fod yn ystyried ei ddyfodol gyda'r clwb am fod ei wraig a'i blant yn dal i fyw ym Mhortiwgal.
"Pan gychwynnon ni bopeth, roedd yn fy siwtio'n iawn ac yn siwtio'r clwb i gael cytundeb blwyddyn," meddai.
"Mae'r newid er lles y clwb ac i mi hefyd - mae gen i deulu ifanc ac mae'n rhaid i ni asesu popeth."