Arestio gyrrwr wedi i blentyn gael ei daro gan gar

Maes parcio Dinbych y PysgodFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad dydd Iau ar lawr gwaelod y maes parcio

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 33 oed wedi cael ei arestio ar ôl i blentyn ifanc gael ei daro gan gar mewn maes parcio aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod.

Digwyddodd y gwrthdrawiad, rhwng y plentyn a char Nissan Qashqai llwyd, tua 16:00 ddydd Iau ar lawr gwaelod y maes parcio.

Mae'r plentyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ac mae ei deulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae'r dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus, yfed a gyrru, a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

Mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog unrhyw un allai roi cymorth gyda'u hymchwiliad i gysylltu â nhw.