Arestio dynes, 34, ar ôl marwolaeth sydyn dyn

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo ar Heol Ferry yn Grangetown ar 30 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wedi cael ei harestio yn dilyn marwolaeth sydyn dyn 34 oed yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Heol Ferry, Grangetown am 12:30 dydd Llun, 30 Rhagfyr.
Cafodd dynes 34 oed ei harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad a'i rhyddhau ar fechnïaeth tan fis Mawrth.
Dywedodd DCI Matt Powell sy'n arwain ymchwiliad yr heddlu: "Rwy'n deall bod y digwyddiad yma wedi achosi pryder yn y gymuned leol a pheth aflonyddwch i'r rhai sy'n byw yn ardal Heol Ferry."
Ychwanegodd: "Byddwn gyda pharch yn gofyn i bobl beidio â dyfalu am amgylchiadau'r digwyddiad hwn gan y gallai fod sawl rheswm dros farwolaeth y dyn."