Dathlu cerddoriaeth anghofiedig Grace Williams
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyfansoddwraig Grace Williams yn cael ei hystyried yn un o ffigyrau cerddorol amlycaf a mwyaf dylanwadol Cymru’r ugeinfed ganrif, ac yn cael ei chofio am gyfansoddiadau nodedig fel ei Fantasia on Welsh Nursery Tunes, Sea Sketches, Penillion a’r Missa Cambrensis.
Ond mae yna gasgliad helaeth o gerddoriaeth ganddi sy'n llai cyfarwydd, meddai Elain Rhys, sydd yn gwneud doethuriaeth am waith anghofiedig y gyfansoddwraig o'r Barri.
Yma mae hi'n egluro pam fod rhai o'i gweithiau eraill yn haeddu sylw hefyd.
A hithau'n 75 mlynedd ers rhyddhau’r recordiad cyntaf o’r Fantasia on Welsh Nursery Tunes, dyma gyfle i graffu ymhellach ar weithiau pwysig gan Williams na chafodd yr un sylw â’r Fantasia am wahanol resymau.
Alawon gwerin
Rhythm and Melody, Awr y Plant – trefniannau gwerin Grace Williams
Roedd gan Williams ddiddordeb mawr mewn alawon traddodiadol Cymreig. Fe luniodd nifer sylweddol o drefniannau safonol yn ystod ei gyrfa a hynny'n bennaf ar gyfer rhaglenni radio'r BBC megis Rhythm and Melody ac Awr y Plant.
Cafodd ei magu yn Y Barri, ac roedd alawon traddodiadol o Gymru, ynghyd â cherddoriaeth werin y tu hwnt i’r wlad, yn rhan werthfawr o fagwraeth Williams. Roedd ei thad, W. M. Williams, yn hanu o Gaernarfon, ac mae’n bur debyg y byddai wedi bod yn gyfarwydd iawn â’r diwylliant Cymreig.
Dangosai ei thad gryn ddiddordeb yn narganfyddiadau’r casglwyr alawon gwerin ar droad y ganrif, felly nid yw’n syndod fod ei frwdfrydedd a’i ddiddordeb yn y maes wedi’u hetifeddu gan ei ferch.
Parhaodd gysylltiad Grace Williams gyda cherddoriaeth draddodiadol wrth astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, gan fod ei hathro, y cyfansoddwr Ralph Vaughan Williams hefyd yn ymddiddori mewn alawon traddodiadol ar draws Prydain.
Er i Williams gynhyrchu ymhell dros gant o drefniannau o alawon gwerin Cymreig yn ystod ei hoes, nid ydynt wedi derbyn sylw gan ymchwilwyr tan yn ddiweddar.
Un rheswm posib dros hyn yw’r ffaith fod gymaint â thri chwarter o’r holl drefniannau heb eu cyhoeddi.
Mae hyn yn destun siom i’r rhai sydd yn gyfarwydd â gwaddol William ym maes cerddoriaeth werin oherwydd eu bod yn cynnig gwedd wahanol ar ei phersonoliaeth gerddorol, yn ogystal â bod yn garreg filltir bwysig yn ei thaith fel cyfansoddwraig.
Maent yn arddangos y cerddor ymarferol ac yn pwysleisio ei gallu i addasu i anghenion ei phroffesiwn, ynghyd â rhoi darlun o’r cerddor ‘hygyrch’ a llawer mwy ‘Cymreig’ ei golygon.
Fodd bynnag, roedd elfen arall i’w hallbwn fel cyfansoddwraig sy’n cynnig gwedd newydd a gwahanol: Grace Williams y theatr a’r opera.
Opera
The Parlour (1966)
Williams oedd y gyfansoddwraig gyntaf yng Nghymru i gyfansoddi opera, sef The Parlour.
Fe gafodd fagwraeth gerddorol freintiedig yn ôl safonau’r cyfnod, gyda cherddoriaeth o bob math yn llenwi’r cartref.
Nid yw’n syndod felly fod Williams wedi ei denu at sawl cyfrwng yn ystod ei gyrfa, gan gynnwys cyfrwng yr opera. Mae modd olrhain ei diddordeb i oedran ifanc iawn, ac mae’n glir bod ganddi gariad neilltuol tuag at y genre.
Mater o syndod felly, o gofio pa mor helaeth oedd ei diddordeb, mai un opera yn unig a gwblhawyd ganddi.
Efallai mai un o’r prif resymau am hyn oedd mai prin iawn oedd y cyfle i gyfansoddi operâu yng Nghymru yn ystod y cyfnod. Ni chafwyd opera lawn gan gyfansoddwr o Gymru ar ôl The Parlour hyd nes cwblhaodd Alun Hoddinott ei opera gyntaf, The Beach of Falesá, yn 1974 – bron i ddegawd yn ddiweddarach.
Perfformiwyd The Parlour am y tro cyntaf ar 5 Mai 1966 yn y Theatr Newydd, Caerdydd, gan Opera Genedlaethol Cymru a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham, fel rhan o double bill gydag Il Tabarro gan Puccini.
Ffilm
Blue Scar (1949)
Nid yw pawb yn ymwybodol fod allbwn Williams fel cyfansoddwraig wedi cynnwys sawl carreg filltir bwysig ac arwyddocaol, gan gynnwys trac sain ar gyfer ffilm.
Williams oedd y gyfansoddwraig gyntaf o Brydain i gyfansoddi sgôr ar gyfer ffilm lawn, sef Blue Scar, ffilm a gafodd ei gynhyrchu gan un o gyfarwyddwyr ffilm benywaidd cyntaf Prydain, Jill Craigie.
Mae’r ffilm wedi ei leoli mewn pentref glofaol yng Nghymru ac mae’n feirniadaeth ar amodau ac amgylchiadau glowyr yn ystod y cyfnod.
Sawl pluen i’w het
Daw’n amlwg o’r trosolwg hwn o weithiau llai cyfarwydd Williams ei bod yn gyfansoddwraig hynod hyblyg a medrus mewn nifer o feysydd gwahanol.
Mae cyferbyniad amlwg yma o ran swyddogaeth y gerddoriaeth yn y gweithiau dan sylw: y trefniannau o alawon gwerin Cymreig yn weithiau ymarferol ar gyfer cyfrwng radio yn bennaf, yr opera yn benllanw datblygiad proffesiynol cyfansoddwr oherwydd ei fod yn gyfanwaith mor uchelgeisiol ar raddfa llawer mwy, a’r gerddoriaeth ffilm yn dangos dawn Williams wrth greu cerddoriaeth i gyd-fynd â delweddau ar y sgrin.
Mae cyfraniad Williams i ddiwylliant cerddorol Cymru wedi bod yn un llawer mwy na’r hyn sy'n cael ei ddarlunio drwy gyfansoddiadau poblogaidd megis y Fantasia on Welsh Nursery Tunes.
Er mor llwyddiannus fu’r gweithiau cerddorfaol, ni ddylwn edrych ar y rhain ar draul gwerthfawrogi agweddau eraill o allbwn Williams.
Mae’n amlwg fod traddodiadau cerddorol Cymru ynghyd â genres Ewropeaidd wedi bod yn bwysig iawn i Grace Williams drwy gydol ei gyrfa, ond yn anffodus, ni chafodd ei holl weithiau eu gwerthfawrogi yn ystod ei hoes.
Rhoddodd i ni ystod o drefniannau o alawon gwerin Cymreig safonol ynghyd ag opera liwgar a ddylai fod yn fwy cyfarwydd i gynulleidfaoedd heddiw ac i gerddorion y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd7 Medi 2018
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2015