Zip World yn cau eu safle yn Sir Conwy lai na blwyddyn ers agor

Zip WorldFfynhonnell y llun, Zip World
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Zip World agor canolfan antur dan do yn Nolgarrog y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Zip World wedi cyhoeddi eu bod yn cau eu safle yn Sir Conwy.

Fe wnaeth y cwmni agor canolfan antur dan do yn Nolgarrog yn ystod gwyliau'r Pasg y llynedd wedi i Barc Antur Eryri gau eu canolfan ar y safle yn 2023.

Dywed y cwmni eu bod wedi "ystyried yn ddwys" cyn dod i benderfyniad anodd.

Fe fyddan yn cysylltu â phobl sydd wedi archebu tocynnau ar gyfer y safle yr wythnos hon i drafod opsiynau.

Mae'r cwmni'n berchen ar bedwar safle arall yng Nghymru ac yn eu datganiad, maen nhw'n dweud eu bod nhw'n "edrych ymlaen i groesawu pobl" i'r lleoliadau hynny "am flynyddoedd i ddod".

'Falch o ein gwreiddiau Cymreig'

Mewn datganiad pellach brynhawn Mercher, dywedodd y cwmni "nad ar chwarae bach" y gwnaethon nhw benderfynu i ddirwyn gweithrediadau Zip World Conwy i ben.

"Yn dilyn cryn ystyriaeth, roeddem yn teimlo nad oedd cyn safle Parc Antur Eryri mwyach yn cyd-fynd â brand a phrofiadau Zip World.

"Rydym mor ddiolchgar i ein holl ymwelwyr, cefnogwyr a'r gymuned gyfan a'i wnaeth yn gyrchfan antur dan do mor arbennig.

"Rydym yn falch o ein gwreiddiau Cymreig, ac mae gogledd Cymru yn dal wir wrth galon ein busnes. Dyma oedd ein man cychwyn, a ble mae ein pencadlys o hyd wrth i ni dyfu ein portffolio antur."

Person ar lein sip dros Chwarel Penrhyn, BethesdaFfynhonnell y llun, Zip World
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cwmni eu bod yn gobeithio datblygu atyniad newydd yn eu safle yn Chwarel Penrhyn, Bethesda

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn aros am ganlyniad cais cynllunio ar gyfer atyniad newydd "gwefreiddiol" a "llawn adrenalin" yn eu safle yn Chwarel Penrhyn, Bethesda.

Mae'n nhw disgrifio'r atyniad hwnnw fel "y mwyaf o'i fath yn y byd" ac mai'r gobaith yn "denu ymwelwyr newydd a blaenorol i ogledd Cymru".

Pynciau cysylltiedig