Saith yn yr ysbyty ar ôl tân mewn tŷ yng Nghaerdydd

Cafodd un person eu cludo i'r ysbyty mewn Ambiwlans Awyr wedi'r digwyddiad
- Cyhoeddwyd
Mae saith o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân difrifol yng Nghaerdydd fore Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 03:45 yn dilyn adroddiadau o dân mewn tŷ ar Treseder Way yn ardal Caerau.
Roedd adroddiadau bod sawl person y tu mewn i'r adeilad pan ddechreuodd y tân.
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans fod un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn Ambiwlans Awyr, tra bod chwech arall wedi eu cludo mewn cerbydau argyfwng.
Cafodd y tân ei ddiffodd yn llwyr erbyn 07:00, ac mae'r gwasanaethau brys yn dweud nad oes awgrym bod y fflamau wedi ymestyn i gartrefi eraill.