Heddlu'n lansio ymchwiliad llofruddiaeth i ddynes goll o Gaerdydd

Cafodd Charlene ei gweld diwethaf ar deledu cylch cyfyng yn siop Morrisons, Adamsdown, ar 23 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n chwilio am ddynes sydd ar goll o Gaerdydd wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth.
Dydy Charlene Hobbs, 36, o ardal Glan-yr-afon, Caerdydd, heb gael ei gweld ers mis Gorffennaf y llynedd.
Mae Heddlu De Cymru nawr yn trin ei diflaniad fel llofruddiaeth.
Mae elusen Crimestoppers bellach yn cynnig gwobr o hyd at £20,000 am unrhyw wybodaeth sy'n arwain at arest a chyhuddiad y person neu'r unigolion sy'n gyfrifol.
'Dal yn obeithiol'
Cafodd Charlene ei gweld diwethaf ar deledu cylch cyfyng yn siop Morrisons, Adamsdown, ar 23 Gorffennaf 2024.
Y diwrnod canlynol, mae i'w gweld mewn llun ar ffon symudol mewn eiddo yn Broadway, Adamsdown.
Roedd ei gwallt wedi clymu'n ôl, ac roedd hi'n gwisgo top distrap tywyll. Mae ganddi datŵ draig unigryw ar ei chefn hefyd.
Dywedodd ei theulu: "Rydym yn dal i obeithio gallu dod o hyd i Charlene yn ddiogel ac yn iach.
"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Crimestoppers a'r wobr i'n helpu i ddod o hyd iddi, ac yn gobeithio y bydd hyn yn helpu pobl i gyflwyno gwybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd i Charlene."

Mae'r "diffyg tystiolaeth bod Charlene yn fyw" wedi arwain at lansio'r ymchwiliad, meddai'r heddlu
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Matt Powell: "Rydym wastad wedi bod yn benderfynol o ddod o hyd i Charlene yn fyw a'i dychwelyd at ei theulu.
"Er fy mod i wastad wedi cadw meddwl agored, mae'r diffyg tystiolaeth bod Charlene yn fyw yn golygu ein bod bellach yn trin ei diflaniad fel ymchwiliad llofruddiaeth.
"Rydym wedi siarad â mwy na 250 o bobl, naill ai'n hysbys i Charlene neu o ardaloedd lle mae'n hysbys, ond does neb yn gallu dweud ble mae Charlene neu ei bod hi'n fyw.
"Mae nifer o'r rhai rydyn ni wedi siarad â nhw yn credu ei bod hi wedi marw ond does neb wedi gallu darparu unrhyw fanylion penodol. Rydym yn gobeithio y bydd gwobr Crimestoppers yn annog meddyliau pobl."
Ychwanegodd bod teulu Charlene yn parhau i gael eu diweddaru ac "mae ein meddyliau gyda nhw ar yr adeg anodd hon".
Mae dyn 45 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad yn parhau ar fechnïaeth, tra bod dyn arall 43 oed a menyw 38 oed wedi'u rhyddhau heb gyhuddiad.