Cyswllt band eang newydd Llanbrynmair yn 'newid byd'
- Cyhoeddwyd
Pentref bach gwledig ym Mhowys yw Llanbrynmair, ond dyma’r lle cyntaf yng Nghymru lle mae band eang ffibr wedi cyrraedd pob tŷ.
Dyma’r gyfnewidfa ffôn gyntaf i gael ei huwchraddio, sy’n golygu bod 100% o gartrefi a busnesau yn gallu cael mynediad at wasanaethau band eang tra chyflym. Nid yn unig i'r rheiny sy'n byw yn y pentref ei hun, ond y plwyf cyfan.
Mewn oes data-ddwys, mae tasgau syml fel gwneud galwad ffôn neu ganu cloch tŷ angen cysylltiad gyda'r we i weithio.
Mae’r ddarpariaeth rhwng ardaloedd, yn enwedig mewn llefydd gwledig, yn dal i amrywio’n fawr.
Yn aelod o Tri Tenor Cymru, mae’r canwr Aled Wyn Davies yn disgrifio ei gyswllt gwe newydd fel “newid byd”.
Mae'n byw tua pedair milltir y tu allan i bentref Llanbrynmair a “doedd dim rhyngrwyd o gwbl yma” o’r blaen, meddai.
“Byddai’n cymryd 10 munud i lwytho 1 tudalen.
“Mae'n fendigedig. Mae'n newid bywyd i rywun sy’n byw yng nghefn gwald. Doedd dim signal ffôn yn y tŷ ac mae popeth - y galwadau ffôn - a phob dim yn gweithio yn wych rŵan.
'Werth yr aros'
“Mae gwaith digidol y fferm a’r canu yn gweithio mor fendigedig erbyn hyn," ychwanegodd.
“Maen ardal eang, un o’r plwyfi mwyaf yng Nghymru sydd bron i 20 milltir o un pen i’r llall felly mae'n blwyf anferth ac i bob tŷ yn yr ardal gael ffibr fel hyn maen anhygoel.
“Gobeithio daw o i bob ardal, achos mae o werth yr aros yn bendant.”
Mewn termau technegol, bydd bron i 600 tŷ bellach yn gallu cael mynediad at gyflymder rhyngrwyd o hyd at 1 gigabit yr eiliad.
Fe ystyrir yn gamp mewn ardal mor wledig ar ôl gorfod sicrhau caniatâd tirfeddianwyr gwahanol er mwyn galluogi statws ffibr i’r pentref cyfan.
Bu’n rhaid codi hyd at 60km o geblau fel rhan o'r gwaith.
Mae'r peiriannydd Tegryd Rees yn gweithio i Openreach, ac yn rhan o'r tîm sy'n gweithio ar uwchraddio ffibr yr ardal.
“Rydym wedi rhedeg rhwydwaith ffibr optig newydd dros yr hen rwydwaith copr. Mae’r gamp yn enfawr i ardal mor wledig.
“Rydym yn sôn am osod 60km o geblau uwchben y ddaear, 20km arall o dan y ddaear, dros 1,000 o bolion i ddal y ceblau hynny. Torri coed, llinellau yn croesi ffiniau gwahanol i wahanol dirfeddianwyr. Roedd heriau aruthrol.
“Dwi’n falch o fod yn rhan o’r tîm oedd gyntaf i wneud hyn - yng Nghymru ac o bosib trwy Brydain. Ond yn bersonol dwi’n cael pleser a balchder o gyflawni hyn i gwsmeriaid fy milltir sgwâr.”
'Camp mewn ardal mor wledig'
Dywedodd Openreach, sy’n eiddo i BT, oedd yn gyfrifol am osod y rhwydwaith bod yr “uwchraddio arloesol” yma dim ond yn bosib trwy Gynllun Talebau Band Eang Gigabit Llywodraeth y DU.
Rhaglen gwerth £5 biliwn yw Prosiect Gigabit sy’n targedu ardaloedd anodd eu cyrraedd neu lefydd heriol a drutach i adeiladu seilwaith digidol.
Gall cartrefi a busnesau cymwys wneud cais am hyd at £4,500 i dalu costau cysylltiad wedi’i uwchraddio.
Mae tri phrif fath o gysylltiad band eang yn cysylltu’r gyfnewidfa ffôn lleol gydag eich cartref neu swyddfa:
ADSL (llinell danysgrifio ddigidol anghymesur) yn defnyddio ceblau copr i gabinet ar y stryd ac ymlaen i'r tŷ;
FTTC (ffibr i'r cabinet) yn defnyddio cebl ffibr optig cyflymach i'r cabinet, ond yna cebl copr oddi yno i'r tŷ;
FTTP (ffibr i'r adeilad neu ffibr llawn) yn defnyddio cebl ffibr optig i gysylltu â chartrefi heb ddefnyddio unrhyw gebl copr
Cymuned Llanrhaeadr-ym-mochnant yn dal i aros
Gall nifer cynyddol o bobl bellach gael mynediad at wasanaeth cyflym, cyfanswm o 970,000 o eiddo ledled Cymru, er bod y ddarpariaeth yn amrywio o hyd.
60 milltir o bentref Llanbrynmair, mae cymuned Llanrhaeadr-ym-mochnant yn aros am welliannau.
Mae Meirion Edwards yn ffermio yno ac yn dweud nad oes “gobaith gwylio dim byd, mae’r olwyn fech yn troi a throi".
“Mae'n cymryd lot o amser i wneud gwaith papur, dydyn ni methu cael mapiau i lwytho ac mae hynny yn broblem o ran gwneud y gwaith fferm.
“Mae eisiau tipyn o amynedd. Ni’n teithio i Lansanffraid i dŷ fy merch i neud lot o’r gwaith,” meddai.
Dywedodd Suzanne Rutherford, prif beiriannydd Openreach Cymru: “Nid oedd y cwmni wedi llwyddo i gyrraedd pob cartref a busnes gyda ffeibr cyflawn o fewn ardal cyfnewidfa o’r blaen, felly rwy’n falch ein bod wedi cyflawni’r her am y tro cyntaf yng Nghymru.
“Mae heriau fel topograffi anodd, mynediad at dir a chostau uchel yn effeithio ein gwaith o fewn ardaloedd cyfnewidfeydd ffôn ond rwy’n hynod o falch ein bod wedi llwyddo i’w goroesi wrth gydweithio mewn timau gyda’n peirianwyr, cymunedau a Llywodraeth y DU.”