Golau gwyrdd i uwchraddio gorsaf Rheilffordd Ucheldir Cymru

Dyluniad o sut y byddai'r orsaf yn edrych ar ei newydd wedd
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer uwchraddio gorsaf reilffordd yn Eryri wedi cael eu cymeradwyo ond fe allai'r penderfyniad fod yn gostus i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Cafodd cais Cwmni Rheilffordd Ffestiniog i godi adeilad newydd ar Reilffordd Ucheldir Cymru ym Meddgelert ei wrthod yn wreiddiol gan bwyllgor cynllunio Awdurdod y Parc.
Ond mae'r Arolygydd Cynllunio wedi troi'r penderfyniad hwnnw ar ei ben.
'Ymddygiad afresymol'
Awgrymodd Richard Duggan bod swyddog achos, sydd heb ei enwi, a oedd wedi ystyried y cais gwreiddiol wedi "ymddwyn yn afresymol" ac mae o wedi gorchymyn i'r awdurdod dalu costau apêl y cwmni.
Roedd Cwmni Rheilffordd yr Ucheldir wedi cael caniatâd ar gyfer adeilad newydd yn 2006 ond er bod y seiliau concrid wedi eu gosod, wnaeth y datblygiad ddim symud yn ei flaen.
Cafodd cais newydd ei wneud yn 2023 ac er bod y swyddog achos wedi argymell y dylai caniatâd gael ei roi fe gafodd y cynllun ei wrthod gan bwyllgor cynllunio Awdurdod y Parc.
Byddai'r adeilad newydd yn cynnwys swyddfa docynnau, caffi, toiledau a siop.
Cais newydd
Y llynedd cafodd cais arall yn union yr un fath ei wneud.
Cafodd y cais yma ei wrthod hefyd wedi i'r un swyddog achos ddadlau nad oedd ganddo ddewis ond argymell gwrthod y cais gan fod y cais blaenorol wedi ei wrthod.
Roedd y rhesymau am wrthod y cais yn cynnwys effaith "niweidiol" ar ardal gadwriaethol, effaith y sŵn a'r golau ar adeiladau cyfagos a'r effaith ar fusnesau lleol.
Ond yn ystod yr apêl, doedd gan swyddogion yr Awdurdod ddim tystiolaeth i'w chynnig i gefnogi unrhyw un o'r dadleuon yma.
Ar sail hynny penderfynodd yr Arolygydd Cynllunio ganiatáu apêl Cwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru.
Dywedodd Richard Duggan: "Yn fy marn i mae penderfyniad y swyddog achos yn gyfystyr ac "ymddygiad afresymol" gan ei fod wedi rhwystro neu oedi datblygiad y mae hi'n glir y dylid ei ganiatáu."
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2024
Mae'r trên stem sy'n rhedeg rhwng Caernarfon a Phorthmadog yn boblogaidd gydag ymwelwyr.
Dywedodd Cwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru bod 23,00 o deithwyr wedi ymweld â Beddgelert yn 2023
Ar sail hynny dywedodd Richard Duggan y byddai'r rhan fwyaf o deithwyr yn rhoi hwb i economi'r pentref drwy ymweld â chaffis a siopau.
Dywedodd yr Arolygydd Cynllunio nad oedd yna wrthdaro rhwng yr orsaf newydd a chynllun datblygu Awdurdod y Parc.
Gan ddyfarnu costau yn erbyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, daeth yr Arolygydd Cynllunio i'r casgliad nad oedd dim byd wedi newid rhwng y cais gafodd ei wneud yn 2023 a'r un diweddaraf y llynedd.