Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw yng Nghaerdydd

Cafodd yr heddlu eu galw i South Morgan Place yn ardal Glan-yr-afon fore Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn ei 30au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth menyw yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i South Morgan Place yn ardal Glan-yr-afon am 07:37 fore Iau, yn dilyn adroddiadau bod menyw wedi cael ei hanafu'n ddifrifol
Fe wnaeth parafeddygon fynychu, ond cafodd y fenyw ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.
Mae dyn yn ei 30au wedi cael ei arestio, a dywedodd Heddlu De Cymru nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.