'Creulon' bod ward ysbyty yn dal ar gau ar ôl methu recriwtio staff

Ymgyrchwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diffyg gweithredu gan y bwrdd iechyd yn ergyd, meddai ymgyrchwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae methiant bwrdd iechyd y gogledd i recriwtio digon o staff i gynnal ward cleifion mewnol yn Ysbyty Tywyn yn cael effaith "creulon" ac "anfoesol", yn ôl teuluoedd.

Fe gaeodd ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn yn ne Gwynedd ddwy flynedd yn ôl oherwydd diffyg staff.

Ond er i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddweud y byddai'n ailagor ymhen misoedd, mae'n parhau ynghau.

Yn ôl trigolion mae'n rhaid wynebu teithiau hir i ysbytai yn Nolgellau, Aberystwyth, Wrecsam a Bangor i ymweld â pherthnasau sâl.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mae recriwtio staff wedi bod yn "heriol" ond bod cyfle rŵan i ddatblygu cynllun iechyd ar gyfer yr ardal ehangach.

Arwydd:

Canolfan Iechyd

Ysbyty Coffa Cymunedol Tywyn a'r Cylch
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn yn ne Gwynedd ddwy flynedd yn ôl oherwydd diffyg staff

Yn ôl ymgyrchwyr mae'r diffyg gweithredu gan y bwrdd iechyd yn ergyd enfawr ac mae realiti'r diffyg staff i weld ym mhrofiad Sian Lewis o'r ardal.

Bu farw ei thad lai na thair wythnos yn ôl.

Gyda Ward Dyfi ynghau bu'n rhaid i Sian a'i theulu deithio i Ysbyty Bronglais, yna i Ysbyty Gwynedd ac yna i Ysbyty Dolgellau er mwyn iddo dderbyn gofal diwedd oes.

"Ma' 'di bod yn ofnadwy," meddai Ms Lewis.

"Doedd o ddim yn gallu dod yn ôl i Dywyn o gwbl, doedd 'na'm byd yma iddo o ran gofal o gwbl. Mae wir 'di bod yn ofnadwy.

"Doedd fy mam sy'n 91... doedd 'na'm modd iddi hi ei weld o, roedd yn rhaid iddi ddibynnu arno ni a'i ffrindiau i fynd â hi yno.

"Mae 'di bod yn gyfnod annifyr a thrawmatig i bawb. Dwi'n rili trist, ac yn flin."

Lisa Markham a Sian Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae profiad Sian Lewis (dde) a'i theulu yn un hollol wahanol i'w chyfaill Lisa Markham (chwith) wedi i'w thad hi gael gofal yn Ward Dyfi

Mae profiad Sian Lewis a'i theulu yn hollol wahanol i un ei chyfaill Lisa Markham a gollodd ei thad chwe blynedd yn ôl tra roedd y ward dal ar agor.

"Mi oedd y gofal gath Dad [yn ward Dyfi] yn anhygoel," meddai.

"Ond mae hyn rŵan... mae'n effeithio teuluoedd, y gymdogaeth, Bro Dysynni ac mae mor drist.

"Dwi'n edrych nôl gyda diolchgarwch, gafodd Taid gofal anhygoel, Nain ym 1988 ac yna Dad dim ond yn 2017 - gafodd o wythnosau hyfryd yma a gofal anhygoel.

"Roedd ei blant, ei wyrion, wyresau yn gallu dod ac oedd o'n amser anhygoel iddo fo i gael ffarwelio efo ni ac i ni gael ffarwelio efo fo.

"Mae'n 'neud chi'n grac i weld be aeth dad Sian drwodd, a'r boen i'r teulu i beidio gallu bod yna efo teulu agos."

Janet Maher
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw tad Janet Maher yn yr ysbyty, dim ond chwe mis cyn i'r ward gau yn 2023

Gyda ward Dyfi dal ynghau mae'n golygu nad yw cleifion yn aros dros nos yno bellach, a dim ond apwyntiadau dydd sydd ar gael.

Mae Janet Maher yn byw gerllaw'r ysbyty a bu farw ei thad hi yno chwe mis cyn i'r ward gau yn 2023.

Ond cyn hynny bu'n derbyn gofal yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

"Roedd teithio 'nôl a mlaen o fan'no yn hunlle' i ni, hunllef.

"Ar ôl pythefnos yno gath o ddod 'nôl i ward Dyfi lle gafodd o'r gofal mwyaf caredig welis i'n fy mywyd.

"A'r cariad ddangosodd nhw i'n nhad, mi farwodd ar ôl pythefnos ond 'da ni mor ddiolchgar i bawb wnaeth ofalu amdano."

Ond dweud ma' Janet nad yw hynny'n realiti i deuluoedd bellach gyda'r ward ynghau.

"Mae gan bawb yr hawl i gael be gafo' ni fel teulu," meddai.

"Mae pobl yn gorfod teithio mor bell, mae o'n greulon ac yn anfoesol."

Dyfed Edwards
Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni wedi cynnal proses recriwtio i'r ward yna ac yn anffodus wedi methu cael y niferoedd sydd eu hangen 24/7," meddai Dyfed Edwards

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod pellter Tywyn o'r prif ysbytai yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus annibynadwy yn arwain at sefyllfa hunllefus.

Wrth siarad â Newyddion S4C, fe wnaeth Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dyfed Edwards, gydnabod yr heriau sylweddol wrth recriwtio staff.

"'Da ni'n gorfod cydymffurfio efo materion diogelwch, 'da ni wedi cynnal proses recriwtio i'r ward yna ac yn anffodus wedi methu i'r niferoedd sydd eu hangen i'w gynnal 24/7.

"Ond ar yr un pryd be 'da ni wedi 'neud ydi defnyddio'r argyfwng yna i gael trafodaeth ehangach ynglŷn â be ydi anghenion y gymuned a'r ysbyty cyfan at y dyfodol, a be ydi'r cyfleoedd o ran darpariaeth ehangach."

Poster recriwtio tu allan i'r ysbyty

Yn ôl Mr Edwards mae cynllun "Tuag Adref" rŵan yn cefnogi pobl i dderbyn gofal adref ac mae'r uned mân anafiadau bellach ar agor bum diwrnod yr wythnos yn Ysbyty Tywyn.

Ychwanegodd nad oedd bwriad gan y bwrdd iechyd i gau'r ward yn gyfan gwbl a'r bwriad rŵan ydi cynnal trafodaeth gyda'r gymuned i ddatblygu strategaeth iechyd at y dyfodol.

Galw mae'r Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionydd, Mabon ap Gwynfor am ailagor y ward.

"Mae angen gwlâu yn gymuned," meddai.

"Oes, ma' angen trafodaeth ac astudiaeth ond mae'n rhaid gwrando ac ymateb i anghenion y gymuned.

"Mae Bro Dysynni yn un o'r ardaloedd hyfrytaf yng Nghymru ond mae'n rhaid ichi deithio i Fro Dysynni nid drwy'r ardal felly mae pobl yn teimlo bod nhw'n cael eu gadael allan o bob dim.

"Does dim trafnidiaeth gyhoeddus hawdd, bancio hawdd neu gwasanaethau cymdeithasol hawdd felly mae'n rhaid i ni weld yr awdurdodau yn sicrhau bod pobl yr ardal yn cael budd a buddsoddiad angenrheidiol."

Yn ôl y bwrdd iechyd y bwriad yw cynnal trafodaethau pellach wedi cyfarfod y bwrdd ym mis Mai.