Pryder bod 'adfywiad mawr' mewn iaith homoffobig mewn ysgolion
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl isod yn cynnwys iaith ddirmygus.
Mae plant mor ifanc â saith oed yn defnyddio iaith homoffobig, gydag "adfywiad mawr" mewn achosion o iaith sarhaus mewn ysgolion, yn ôl cyn-athro ac ymgynghorydd.
Mae Ian Timbrell, sy'n gweithio gydag ysgolion ar gynhwysiad LHDT+, yn dweud bod nifer cynyddol o athrawon wedi gofyn am ei gymorth yn ddiweddar ar ôl clywed defnydd o iaith ddirmygus.
Mae apiau fel TikTok yn cael eu henwi fel cyfryngau lle mae iaith o'r fath i'w chlywed.
Ond mae llefarydd ar ran y cwmni yn dweud eu bod yn dileu 90% o fideos sy'n mynd yn groes i bolisïau ar fwlio ac iaith sarhaus, cyn iddyn nhw gael eu hadrodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "unrhyw fath o fwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu rhywiol yn annerbyniol".
'Anwybodaeth ddim yn esgus'
Yn ôl Mr Timbrell o Gaerdydd, fu'n athro am 17 mlynedd, tydi o ddim yn cofio clywed y dywediad 'that's so gay' yn cael ei ddefnyddio yn ystod ei yrfa.
Ond mae'n teimlo bod "adfywiad mawr" wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae llawer ohono oherwydd bod teuluoedd a rhieni yn ei ddefnyddio," meddai.
"Ond mae llawer ohono o gyfryngau cymdeithasol yn yr Unol Daleithiau - cyfrifon TikTok a phethau felly."
Mae Mr Timbrell, sy'n dad i un plentyn ac sydd bellach yn rhedeg sefydliad nid-er-elw More than Flags and Rainbows, yn dweud "nad ydy anwybodaeth yn esgus".
"Os ydy pobl yn dweud 'doeddwn i ddim yn ei feddwl o fel'na', neu 'dwi ddim yn gwybod be mae'n ei feddwl', yna ein cyfrifoldeb ni fel rhieni ac athrawon ydy eu haddysgu ynglŷn â beth mae'n ei olygu."
Mae'n dweud y bydd yn defnyddio ei brofiadau ei hun i egluro i ddisgyblion cymaint y mae'n gallu brifo rhywun pan fo'r term yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd negyddol.
"Yr unig ffordd o atal hyn ydy os ydy pawb yn sefyll yn ei erbyn, os ydych chi'n athro, yn rhiant, yn berson ifanc," meddai.
'Dim atgofion melys o'r ysgol'
Fe wnaeth adroddiad gan Estyn ym mis Rhagfyr 2021 ddarganfod bod gan ddisgyblion LHDT+ brofiad personol helaeth o aflonyddu geiriol homoffobig.
Roedd llawer yn dweud bod bwlio homoffobig yn digwydd drwy'r amser, ac mai dyma'r math mwyaf cyffredin o aflonyddu mewn ysgolion.
Does gan Ashton Taylor, ddaeth allan yn drawsryweddol pan yn 15 oed, ddim atgofion melys o fod yn yr ysgol.
"Un o'r pethau wnes i ddarganfod oedd fy mod i'n cael fy ngalw yn lesbian yn eitha' cyson, rhywbeth na fydde athro o bosib yn sylwi arno fel bod yn sarhaus.
"Ond eto mae'n rhywbeth fyddai'n effeithio dipyn arna i yn blentyn."
Bellach yn astudio'r gyfraith, mae Ashton, 22 oed o Gaerffili, yn ymweld ag ysgolion a phrifysgolion i siarad am ei brofiad.
Mae'n dweud iddo glywed iaith homoffobig yn yr ysgol ers pan oedd yn 11 oed, a bod hynny wedi gwneud iddo "ofni mwy ynglŷn â dod allan".
"Dwi wedi siarad â phobl oedd falle ddim yn neis gyda fi yn yr ysgol, ac maen nhw wedi prynu peint i fi yn y dafarn, oherwydd fy mod wedi eistedd a siarad hefo nhw, ac maen nhw wedi tyfu i fyny ychydig, wedi ystyried, ac wedi eistedd a gwrando arna i," meddai.
Mae'n fater cyfarwydd i Just Like Us - elusen sy'n gweithio gydag ysgolion i gefnogi pobl ifanc LHDT+.
Fe wnaeth eu hymchwil ar y cyd â VotesforSchools - sy'n darparu adnoddau i athrawon i gefnogi trafodaeth ar bynciau cyfoes - ddarganfod bod bron i bedwar o bob pum disgybl cynradd y gwnaethon nhw eu holi yn Lloegr wedi clywed iaith homoffobig.
Fe wnaethon nhw holi bron i 32,000 o ddisgyblion, yn cynnwys dros 4,000 o blant cynradd.
Mae'r sefydliad, sy'n gweithio gyda 272 o ysgolion yng Nghymru, yn dweud eu bod yn credu ei fod yn broblem drwy'r DU o hyd.
Dywedodd Amy Ashenden, wnaeth arwain yr ymchwil, nad ydy defnyddio'r term "gay" fel un sarhaus wedi diflannu o feysydd chwarae ysgolion a dosbarthiadau, a bod cyfryngau cymdeithasol wedi gwaethygu hynny.
"Dwi'n credu ein bod ni, fel oedolion LHDT+ hyd yn oed, yn hoffi meddwl bod pethau wedi gwella," meddai.
"Ond mae llawer o bobl ifanc yn wynebu llawer o'r un heriau. Dim ond un esiampl ydy hyn."
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023
Dywedodd llefarydd ar ran TikTok nad ydyn nhw'n caniatáu deunydd sy'n cynnwys iaith sarhaus, neu sy'n ymosod ar berson neu grŵp oherwydd eu rhywedd, eu hunaniaeth rhywedd, eu rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
Mae adroddiad gweithredu'r platfform o fis Ebrill i Fehefin 2024 yn awgrymu ei fod wedi tynnu 88% o fideos sy'n mynd yn groes i'w polisïau ar fwlio ac aflonyddu, cyn iddyn nhw gael eu hadrodd iddyn nhw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cwricwlwm drwy Gymru wedi ei gynllunio i hyrwyddo "empathi, parch a charedigrwydd".
"Mae dysgwyr yn cael eu cefnogi i herio iaith sy'n gwahaniaethu a lleihau bwlio."