Diogelu 'trysor' o sampler hanesyddol merch 11 oed ym Mangor

Roedd gwaith nodwydd yn ganolog i addysg merched yn y 19eg ganrif, ac mae sampler Mary Anne Hughes yn cael ei ystyried yn drysor cenedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae sampler hanesyddol o Bont y Borth, sy'n cael ei ystyried yn "drysor cenedlaethol" wedi cael cartref ym Mangor yn dilyn ymgyrch i sicrhau na fyddai'n gadael Prydain.
Cafodd y gwaith nodwydd o'r bont a chychod yn croesi'r Fenai ei greu yn 1829 gan ferch ysgol 11 oed, Mary Anne Hughes.
Roedd perygl y byddai'r sampler yn gadael Prydain, ond fe wnaeth y Pwyllgor Adolygu ar Allforio Gweithiau Celf a Gwrthrychau o Ddiddordeb Diwylliannol (RCEWA) argymell y dylai ysgrifennydd diwylliant y DU atal trwydded allforio dros dro ar y gwaith.
Yn dilyn cais llwyddiannus i'w brynu, mae bellach yn cael ei arddangos yn amgueddfa ac oriel gelf Storiel ym Mangor.
'Arwyddocâd lleol a chenedlaethol'
Mae'r gwaith yn cael ei ystyried yn arwyddocaol i hanes lleol a chenedlaethol fel darlun anghyffredin gan ferch o ysgol gyfagos o'r bont grog enwog.
Mae darluniau o bont eiconig Telford ar ffurf tecstil yn brin.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros economi a chymuned, bod "sicrhau eitem fel y sampler yma at ein casgliadau yn cyd-fynd gyda chenhadaeth a gwerthoedd Storiel".
"Rydym am sicrhau bod ein casgliadau yn ysbrydoli ac yn addysgu a'u bod ar gael i bawb eu mwynhau.
"Mae'r sampler hwn o Bont y Borth yn dangos ein huchelgais wrth gaffael a gofalu er budd pobl Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru.
"Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau bod y darn yma yn aros yma yng Ngwynedd, yn enwedig wrth i'r bont agosáu at ei 200 mlwyddiant yn 2026."

Mae'r sampler bellach yn cael ei arddangos yn Storiel, Bangor tan Ionawr 2026
Cafodd y sampler ei brynu gyda chyllid gan Gronfa Brynu Cyngor Celfyddydau Lloegr, Amgueddfa V&A a Chyfeillion Storiel.
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos gyda sampleri eraill ar lawr isaf Storiel tan 2 Ionawr, 2026.
Bydd wedyn yn symud i arddangosfa yn yr Oriel Gymunedol i ddathlu 200 mlwyddiant y bont.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2019
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2016