Dyn 19 oed wedi'i anafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Eryri

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5 ger Capel Curig ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur 19 oed wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A5 yn Eryri.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r digwyddiad tua milltir i'r gogledd o Gapel Curig am 14:38 ddydd Sul.
Dau gerbyd - Audi Q7 llwyd a beic modur Yamaha glas - oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Cafodd y beiciwr modur ei gludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty yn Stoke ble mae'n parhau i dderbyn triniaeth.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.