Eisteddfod: Gwobrwyo busnesau Rhondda Cynon Taf am hybu'r Gymraeg

Helen Prosser yn cyflwyno.
Disgrifiad o’r llun,

Nod y digwyddiad fore Llun oedd dathlu defnydd o'r Gymraeg "o fewn ein busnesau ni", meddai Helen Prosser

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau yn ardal Rhondda Cynon Taf wedi'u gwobrwyo am eu cyfraniad at hybu'r Gymraeg ar ôl Eisteddfod Genedlaethol 2024.

Cafodd seremoni wobrwyo ei chynnal ym Mharc Ynys Angharad ym Mhontypridd fore Llun - safle maes yr Eisteddfod y llynedd.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.

Roedd busnesau'n cael eu gwobrwyo mewn pum categori - Defnydd o'r Gymraeg; Defnydd gweladwy o'r Gymraeg; Gwobr croeso i'r ŵyl; Gwobr diolch lleol, a Gwobr arbennig i glwstwr o fusnesau ddangosodd gefnogaeth i'r Eisteddfod a'r Gymraeg.

Helen Prosser
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Prosser yn gobeithio gweld busnesau lleol yn parhau i ddefnyddio'r Gymraeg yn y dyfodol

Dywedodd cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, Helen Prosser, mai'r nod oedd "dathlu Cymraeg o fewn ein busnesau ni."

"O'dd e'n bwysig iawn i ni fel pwyllgor lleol bo' ni'n hyrwyddo busnesau trwy gydol cyfnod yr Eisteddfod, ac 'y ni'n sôn gymaint am y gwaddol - mae parhau i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn ein busnesau ni yn rhan o'r gwaddol hwnnw."

Yn ôl prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, roedd yn gyfle i "ddiolch i'r busnesau am gydweithio gyda ni ar hyd y daith, a hefyd i gydnabod y gwaith sydd wedi bod yn digwydd ar lawr gwlad".

"Dwi'n credu'r neges fawr fan hyn oedd bod pobl wedi gweld ei fod yn gwneud synnwyr iddyn nhw yn ariannol, yn ogystal â'i fod yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio'u Cymraeg neu i gychwyn ar y daith 'na."

Betsan Moses
Disgrifiad o’r llun,

Roedd defnyddio'r Gymraeg yn "gwneud synnwyr ariannol" i fusnesau, yn ôl Betsan Moses

Tafarn y Lion yn Nhreorci enillodd y 'Wobr diolch lleol' - gafodd ei chyflwyno gan wirfoddolwyr lleol - i ddiolch i fusnes neu gwmni fu'n cefnogi'r gwaith trefnu a chodi arian.

Dywedodd perchennog y Lion, Adrian Emmett, fod cynnal y brifwyl wedi gwneud gwahaniaeth yn lleol.

"Mae llawer mwy o bobl moyn defnyddio fe ar ôl (yr eisteddfod), ac roedd pobl yn dod i'r ardal a falle bod nhw ddim yn gwybod faint o bobl sydd yn siarad Cymraeg yma," meddai.

Mae'r dafarn bellach yn lleoliad ar gyfer digwyddiad Cymraeg blynyddol, Gŵyl Mabon, fydd yn cael ei chynnal eleni ym mis Mai.

"Ni ddim moyn yr Eisteddfod i ddod a mynd, a dim byd yn digwydd, so mae ambyti'r legacy nawr, ac mae pobl wedi tynnu at ei gilydd am yr Eisteddfod yn gweithio gyda'i gilydd am flynyddoedd i ddod."

Adrian Emmett
Disgrifiad o’r llun,

Adrian Emmett yw perchennog Tafarn y Lion yn Nhreorci a enillodd y 'Wobr diolch lleol'

Clwb y Bont ym Mhontypridd gafodd y wobr 'Croeso i'r ŵyl' - gafodd ei enwebu gan bobl o'r tu allan i ddalgylch yr Eisteddfod i gydnabod y croeso arbennig gawson nhw yn ystod wythnos yr ŵyl, a bwyty Rustico ym Mhontypridd wnaeth ennill gwobr 'Defnydd o'r Gymraeg.'

Busnesau Stryd y Felin yn y dre enillodd y wobr arbennig.

Yr Hen Lyfrgell, yn y Porth, yng Nghwm Rhondda gafodd y wobr am ddefnydd gweladwy o'r Gymraeg.

Yn ôl y perchennog, Teleri Jones, roedd cynnal yr Eisteddfod yn y sir wedi gwneud "lot o les i fusnesau lleol a chodi ymwybyddiaeth" o'r Gymraeg.

"Mae lot o bobl wedi dweud wrtha i bo' nhw wedi mynd i'r eisteddfod am y tro cyntaf, a bo' nhw'n difaru peidio mynd ar ddechrau'r wythnos fel bo' nhw wedi gallu mynd eto'r ail waith," meddai.

Mae'n dweud hefyd bod yr Eisteddfod wedi codi ymwybyddiaeth o'r ardal i bobl o rannau eraill o Gymru

"Mae cymaint o bobl yn teithio lan o Gaerdydd a sylweddoli pa mor hawdd yw e, a pha mor gyfleus yw e."

Teleri Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynnal yr Eisteddfod yn y sir wedi gwneud "lot o les i fusnesau lleol a chodi ymwybyddiaeth" o'r Gymraeg, meddai Teleri Jones

Yn ôl Helen Prosser, mae'r gwahaniaeth yn amlwg yn rhai o fusnesau tref Pontypridd, gyda nifer bellach yn dangos arwyddion 'Hapus i siarad' os oes ganddyn nhw staff sy'n siarad Cymraeg, a mwy o ymwybyddiaeth yn gyffredinol.

"Es i mewn i gaffi a o' nhw'n dweud 'sneb yn siarad Cymraeg, ond mae'r ferch sydd yma ar ddydd Sadwrn yn siarad Cymraeg' ac o'n i'n meddwl tybed a fydden nhw'n gwybod hynny cyn yr Eisteddfod.

"Mae wedi dod â'r Gymraeg o dan y cownter i eistedd yn bert iawn ar ben y cownter."