Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 'hwb i'r iaith a'r economi'

Helen Prosser oedd cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol eleni
- Cyhoeddwyd
Mae Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi rhoi "llwyfan i'r iaith Gymraeg a hwb i'r economi", yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwaith.
Dywedodd Helen Prosser fod llawer o bobl wedi ymweld â'r Eisteddfod am y tro cyntaf, gan honni eu bod wedi dod yn ôl sawl gwaith hefyd.
Ychwanegodd fod busnesau Pontypridd "wrth eu boddau", a bod Trafnidiaeth Cymru wedi cludo dros 50,000 o deithwyr ar eu trenau i orsaf Pontypridd.

Dywedodd Helen Prosser fod yr Eisteddfod wedi bod o fudd mawr i fusnesau Pontypridd
"Rwyf wedi cyfarfod teuluoedd gafodd docynnau drwy gynllun y llywodraeth ar gyfer teuluoedd, ac yn dod yn ôl sawl diwrnod wedi hynny, ac mae hynny yn beth mor bositif gan helpu gobeithio cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050," meddai Ms Prosser.
"Rydym wedi gweld y Gymraeg yn cael lle amlwg ym Mhontypridd a Rhondda Cynon Taf a bod pobl wrth eu boddau dod yma i flasu'r Gymraeg, ein diwylliant ac i weld fod hwn yn perthyn i ni gyd.
"Gellid dweud fod y gwaith yn cychwyn i gadw'r bobl hyn gyda ni, ond hefyd beth sy' wedi bod yn bleser i mi yw gweld y bobl sydd eisoes gam ymhellach ar y daith ac wedi dechrau dysgu [Cymraeg] ac yn gwirfoddoli ym mhob twll a chornel.
"Mae gennym fwriad cynnal rhyw fath o ffair yn yr hydref lle byddwn yn gobeithio bydd y bobl hyn yn parhau i wirfoddoli ond hefyd, trwy ymbarél y fenter iaith leol dod i wybod mwy am y cyfleoedd eraill sydd ar gael."

Cyfaddefod Helen Prosser y bu pryderon am drafnidiaeth cyn y digwyddiad, ond nad oedd problemau yn y pendraw
Dywedodd Ms Prosser fod pryderon cyn y digwyddiad am drafnidiaeth, ond fod popeth wedi gweithio'n dda yn y pendraw.
"Roedd gennym bryderon yr wythnos ddiwethaf am drafnidiaeth ond nid ydym wedi cael cwynion," meddai.
"Mae'r cynlluniau wedi gweithio'n ardderchog."

Mae busnesau Pontypridd "wrth eu boddau", yn ôl Ms Prosser
Ychwanegodd fod yr Eisteddfod wedi bod o fudd mawr i fusnesau Pontypridd yn ogystal.
"Maen nhw wedi bod yn brysur drwy'r wythnos ac mae Eisteddfodwyr wedi eu cefnogi," meddai.
"Rydym wedi gweld y ddau beth roeddem eisiau yn deillio o'r Eisteddfod - llwyfan i'r iaith Gymraeg a hwb i'r economi.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Wrecsam - ardal drefol arall - yn 2025.