Lansio adolygiad fforensig i farwolaeth dynes yn 1985

Cafodd Sandra Phillips ei llofruddio ar 14 Mehefin 1985
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi lansio adolygiad fforensig i farwolaeth dynes 40 mlynedd yn ôl.
Cafodd Sandra Phillips, 37, ei lladd tra'n gweithio mewn siop ryw ar Stryd Dillwyn, Abertawe, ar 14 Mehefin 1985.
Fe gafodd ymchwiliad trylwyr ei gynnal i'r llofruddiaeth yn 2004, ond ni ddatblygodd unrhyw gliwiau newydd.
Dywedodd Heddlu'r De fod nifer o eitemau wedi cael eu cyflwyno ar gyfer profion fforensig pellach.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Claire Lamerton, pennaeth Uned Adolygu Heddlu De Cymru, fod yr heddlu "wedi cael llwyddiant sylweddol gyda hen achosion sydd heb eu datrys, gan fod yn un o'r lluoedd cyntaf yn y wlad i sefydlu tîm adolygu yn 1999 i gynnal adolygiadau i achosion o'r fath".
"Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr adolygiad fforensig yn rhoi'r cyfle i ni sicrhau cyfiawnder i deulu Sandra, sydd wedi cael gwybod am y gwaith newydd yma.
"Er bod pedwar degawd wedi pasio, rwy'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am farwolaeth Sandra i ddod ymlaen."
Carchar ar gam
Cafodd y fam i bedwar ei churo a'i thagu yn y siop ryw yr oedd hi'n ei rheoli, ac fe gafodd ei chanfod mewn pwll o waed.
Roedd petrol hefyd wedi cael ei dywallt drosti.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn gwybod bod cwsmeriaid wedi mynd a dod cyn iddi gael ei lladd tua 11:00, gyda'i chorff wedi'i ddarganfod gan reolwr ardal y siop, wnaeth alwad i'r adeilad ar Stryd Dillwyn am 13:45.
Roedd y siop wedi'i chloi o'r tu allan ac mae allweddi Mrs Phillips wedi bod ar goll ers hynny.
Cafwyd hyd i nifer o olion bysedd anhysbys yno ac roedd ffôn, oedd ar y wal y tu ôl i'r cownter, wedi diflannu.
Cafodd y brodyr Wayne a Paul Darvell o Gastell-nedd eu canfod yn euog ar gamo'r llofruddiaeth, gan dreulio saith mlynedd yn y carchar cyn cael eu rhyddhau yn 1992.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.