Canolfannau hamdden 'i ddiflannu o gefn gwlad heb fwy o arian'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru ariannu llywodraethau lleol yn well neu dderbyn bod gwasanaethau fel canolfannau hamdden yn mynd i ddiflannu o gymunedau gwledig, yn ôl Cyngor Sir Powys.
Fe ddaw wrth i’r awdurdod lleol ystyried ymgynghoriad allai olygu cau dros hanner canolfannau'r sir.
Opsiynau eraill sy’n cael eu trafod yw trosglwyddo perchnogaeth i gymunedau neu gwmni preifat.
Yn ôl Cyngor Powys, maen nhw’n “rhedeg mwy o ganolfannau hamdden nag unrhyw gyngor arall yng Nghymru” ac mae’n rhaid sicrhau eu bod yn “fforddiadwy”.
'Siomedig iawn'
Mae Richard Rees yn mynd â’i blant i wersi nofio bob wythnos yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi.
Dywedodd: “Mae’n siomedig iawn. Ni’n byw mewn ardal wledig yma lle mae digon o bethau peryglus i blant - ger y môr, llynnoedd ac afonydd.
“Mae’n plant ni’n gorfod gallu dysgu nofio, mae’n hanfodol.
Ychwanegodd: “Mae cymdeithas wedi mynd reit bell os nad ydyn ni’n gallu dysgu ein plant ni i nofio. Mae’n beth mor bwysig.
“Mae 'na ardal eang yn cael ei gwasanaethu, gyda phobl yn dod o dair sir gwahanol - o Aberystwyth ac o Ddolgellau."
- Cyhoeddwyd8 Medi 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
Roedd disgwyl i'r adroddiad a'r opsiynau fynd o flaen cabinet Cyngor Powys ar 26 Tachwedd, ond daeth cyhoeddiad gan y cyngor fore Iau eu bod yn gohurio’r drafodaeth.
Roedd disgwyl i'r cabinet edrych ar opsiynau ar gyfer lleihau nifer eu canolfannau yr wythnos nesaf, cyn ymgynghoriad.
Mae’r drafodaeth wedi ei gohirio – ond mae’r broblem o ariannu’r cyfleusterau yn parhau ac felly hefyd yr ansicrwydd o fewn y cymunedau gwledig.
Beth oedd yr opsiynau?
Roedd disgwyl i'r ymgynghoriad drafod pedwar opsiwn.
Opsiwn 1: Dim newid.
Opsiwn 2: Cadw pum canolfan hamdden graidd yn Y Trallwng, Y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais. Cau'r naw arall oni bai bod modd trosglwyddo i ofal ysgolion.
Opsiwn 3: Trosglwyddo’r holl ganolfannau hamdden i ddwylo cymunedol neu gwmni preifat.
Opsiwn 4: Cau neu ymchwilio i’r posibilrwydd o drosglwyddo i ddwylo cymunedol neu gwmni preifat y canolfannau yn Llanfair-ym-muallt, Dwyrain Maesyfed, Rhaeadr Gwy, Llanfyllin a Llanfair Caereinion. Cadw Canolfannau Hamdden Machynlleth, Llanidloes a Thref y Clawdd, Y Trallwng, Y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu, Ystradgynlais.
'Dim dyfodol i'r clwb'
Yn aelod o Glwb Triathlon Cerist, mae Bedwyr Fychan yn poeni am y dyfodol.
Fe ddywedodd ei fod yn “bryder mawr” i’r clwb ac i’r gymuned yn ehangach.
“Mae dyfodol clwb Triathlon Cersit ynghlwm yn uniongyrchol gyda’r ganolfan hamdden.
“Nid yn unig ydyn ni’n ymarfer yma ond rydym ni’n dibynnu ar y ganolfan i feithrin aelodau’r dyfodol i ni.
“Heb ganolfan hamdden bydd dim dyfodol i’r clwb,” meddai.
I bobl Rhaeadr Gwy, yr unig opsiwn yw cadw’r canolfannau hamdden ar agor.
Mae sesiynau ymarfer corff arbennig i’r rheiny dros 50 yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Rhaeadr dair gwaith yr wythnos ac mae’n ddosbarth “poblogaidd”.
Un o’r rhai sy’n mynd yw Margaret Lloyd, sy'n dweud ei fod yn newyddion “trist iawn” iddi.
“Mae’n dda i bobl fel fi, sydd yn hŷn, i wneud ymarfer y corff. Nid yn unig hynny, ni’n mynd am baned o goffi ar ôl y dosbarth ac mae pobl yn dod o lefydd tu allan i Raeadr i’r sesiynau.
“Dwi’n byw ar ben fy hun ac mae dod i fan hyn mor dda i fi.”
'Colli gwasanaethau pwysig'
Yn ôl y Cynghorydd Richard Church, mae'n rhaid i bobl sy’n byw mewn ardal wledig sylweddoli “bod rhaid teithio yn bellach i gael mynediad at gyfleusterau”.
Ychwanegodd ei fod yn “angerddol” am alluogi pobl i gadw’n iach ac “nid yw’n benderfyniad dwi’n dymuno gwneud”, ond bod "hanes hir o frwydro am arian i lywodraeth leol yng Nghymru".
“Mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar hyn yn ddifrifol achos os nad ydyn ni’n gallu ariannu yn well mi fyddwn ni’n colli gwasanaethau pwysig fel ein canolfannau hamdden.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr heriau gwirioneddol mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth gydbwyso eu gwasanaethau a'u cyllidebau, ac rydym yn parhau i gwrdd ag awdurdodau lleol i drafod yr heriau hyn yn rheolaidd.
"Daeth cyllideb y DU â buddsoddiad i'w groesawu i Gymru, mewn cyferbyniad llwyr â'r 14 mlynedd diwethaf. Ond ni ellir gwrthdroi'r sefyllfa a'i hetifeddwyd gan y Canghellor mewn un gyllideb yn unig, a bydd yn cymryd amser i adfer cyllid cyhoeddus.
"Byddwn yn ystyried ein penderfyniadau gwario wrth i ni ddatblygu ein cyllideb ddrafft yn yr wythnosau i ddod."