Dod o hyd i Gymro oedd ar goll yn Sbaen

Jason TaylorFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jason Taylor bellach gyda'i deulu, meddai Heddlu Dyfed-Powys

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 36 oed o Gymru oedd ar goll yn Sbaen wedi cael ei ddarganfod, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Roedd Jason Taylor wedi bod ar goll ers bore Sadwrn, 29 Mawrth, ac wedi bod ar ei wyliau yn Alicante yn ne-ddwyrain y wlad.

Dechreuodd Mr Taylor aros am gymorth yn dilyn problem gyda'i docyn awyren, ond gadawodd y maes awyr ar droed am tua 09:00, heb siarad ag unrhyw un.

Roedd apêl am wybodaeth wedi'i gyhoeddi gan Heddlu'r Drenewydd a Llanidloes, a buodd heddlu yn Sbaen yn chwilio amdano.

Mae Jason bellach gyda'i deulu, meddai'r heddlu.

'Ddim wedi meddwi nac yn sâl'

Dywedodd ei ffrind wrth asiantaeth newyddion PA eu bod wedi trio sganio ei docyn awyren "sawl gwaith", ond nid oedd yn cael ei dderbyn, a'r giât yn gwrthod agor.

"Felly aeth Jason i ofyn am help," meddai ei ffrind cyn ei ganfod.

"Arhosodd un aelod o'r grŵp tu ôl i'r giât amdano i ddod 'nôl, ond dyna'r tro olaf i ni ei weld neu glywed ganddo."

Roedd hyn yn ymddygiad anarferol i Jason, a dywedodd ei ffrind ar y pryd bod y teulu wedi bod yn "sâl yn poeni".

"Doedd Jason ddim wedi meddwi, yn sâl, nac yn analluog," meddai.

Ychwanegodd yn gynharach bod "nifer o bobl yn hedfan allan heddiw i chwilio amdano, ac i ddeall beth sydd wedi digwydd."

Dywedodd llefarydd ar ran y Policia Nacional yn Alicante eu bod wedi bod yn ymchwilio i ddiflaniad Cymro.

Pynciau cysylltiedig