Enwebu Clwb Ffermwyr Ifanc o Geredigion am eu gwaith cymunedol
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon wedi cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Cymunedol Prydeinig y mudiad.
Fe fydd 20 o aelodau’r clwb yn teithio i Birmingham dros y penwythnos i weld os fyddan nhw'n llwyddo i gipio Gwobr Ysbryd Cymunedol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc ar gyfer 2024.
Mae’r clybiau eraill sydd wedi’u henwebu ar gyfer y wobr yn dod o Gaint, Sir Amwythig, a Cumbria.
Clwb Llangwyryfon o Geredigion yw’r unig un o Gymru i gyrraedd y rowndiau terfynol.
Yn ôl Eiry Williams, Swyddog y Wasg CFfI Llangwyryfon, byddai cefn gwlad yn “lle lawer tlotach” heb fudiad y ffermwyr ifanc.
“Fi’n credu bod e’n dangos bod mudiad y ffermwyr ifanc yn beth hanfodol yng nghefn gwlad.
“Ni’n neud shwd gyment o waith gwirfoddol ar draws Cymru a chodi lot o arian tuag at elusennau.
“Maen rhywbeth hanfodol. Bydde ni’n argymell unrhyw un i fynd i’w clwb lleol nhw er mwyn parhau i gadw ein cymunedau ni’n fyw trwy’r CFfI.”
Mae 5,500 o aelodau gan CFfI Cymru - a hynny'n cynnwys pobl ifanc rhwng 10 a 28 oed.
Yr amcan yw bod dros 1.1 miliwn o oriau gwaith gwirfoddol yn cael eu gwneud yn flynyddol gan aelodau.
Bob blwyddyn, mae clwb Llangwyryfon yn trefnu noson Y Goeden Nadolig gan roi anrheg i bob plentyn bach yr ardal.
Mae Bwrlwm Bro bob haf, sy’n cynnwys rasys i blant, carnifal a stondinau.
Yn ogystal, mae aelodau’r clwb yn torri’r gwair yn yr hen fynwent ac yn trefnu Treialon Cŵn Defaid yn yr ardal.
Eleni hefyd fe wnaeth rhai o aelodau’r clwb arwain ar gais llwyddiannus i gael £17,000 i roi system paneli solar ar do neuadd y pentref, lle mae’r clwb yn cyfarfod yn wythnosol.
Un sydd ar y pwyllgor hwnnw, yn cynrychioli’r clwb, yw Heulwen Evans.
“Os byddwch chi’n edrych ar ôl eich cymuned, bydd eich cymuned yn edrych ar ôl chi," meddai.
“Roedden ni’n gweld bod y neuadd yn gwneud colled ariannol pob blwyddyn ac roedd angen gwneud rhywbeth am y peth.
“Ni wedi gwneud cais am sawl grant er mwyn galluogi gosod system wresogi newydd yno a gosod paneli solar ar y to.
“Buon ni’n ffodus iawn i gael arian drwy grant Cynnal y Cardi gan Gyngor Ceredigion, a hefyd y Cyngor Cymuned."
Bydd canlyniadau’r gwobrau yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Birmingham nos Sadwrn.
Daeth Clwb Uwchaled i’r brig yn y gystadleuaeth ddwy flynedd yn ôl, gyda Llangwyryfon yn gobeithio efelychu’r gamp eleni.