Môn: Dau wedi'u hanafu'n ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad tractor

Y digwyddiad
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar gyrion pentref Llanfaethlu

  • Cyhoeddwyd

Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn ymwneud â thractor ar Ynys Môn.

Ychydig cyn 13:00 ar 8 Gorffennaf, cafodd yr heddlu wybod am y gwrthdrawiad ar yr A5025 ger tafarn y Black Lion ar gyrion pentref Llanfaethlu.

Buodd y Gwasanaeth Ambiwlans a'r heddlu yno a chafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Gwynedd.

Cafodd un o'r bechgyn ei gludo i ysbyty yn Stoke yn ddiweddarach oherwydd ei anafiadau.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd hefo deunydd o gamera car i gysylltu gyda nhw.

Pynciau cysylltiedig