Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn, 43, gafodd ei drywanu
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn 43 oed yn ardal Llaneirwg ger Caerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau o drywanu yn Heol Trostre tua 16:00 ddydd Mawrth.
Mae presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal.
Mae teulu'r dioddefwr wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.