Pryder y bydd llai o actorion a cherddorion proffesiynol yn sgil toriadau
- Cyhoeddwyd
Cymru bellach yw’r unig wlad yn y DU heb raglen conservatoire i blant a phobl ifanc a hynny wedi i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yng Nghaerdydd roi’r gorau i gynnal sesiynau canu ac actio i bobl ifanc yn sgil heriau ariannol sylweddol.
Y rhaglen oedd yr unig un o’i fath yng Nghymru. Roedd yn darparu hyfforddiant a chyfle i berfformwyr ifanc i ddilyn gyrfaoedd ym myd cerddoriaeth a drama proffesiynol.
Mae 'na bryderon y bydd llai o gantorion ac actorion proffesiynol yng Nghymru o ganlyniad i’r penderfyniad ond mae'r Coleg Cerdd a Drama yn mynnu nad oedd ganddynt ddewis arall yn sgil costau gweithredol cynyddol.
Maen nhw hefyd yn dweud bod yna ddiffyg cydraddoldeb mewn cyllid o'i gymharu â conservatoires eraill y DU.
Dywedodd Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch fod "pob sefydliad yn gyfrifol am reoli ei gyllideb ei hun, sy’n cynnwys cyllid gan Lywodraeth Cymru ynghyd â ffynonellau incwm eraill".
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru "wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi addysg cerddoriaeth, ac mae'n ariannu'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol gyda buddsoddiad sylweddol, cyfanswm o £13 miliwn rhwng 2022 a 2025".
Mae’r coleg wedi bod yn cynnal sesiynau ieuenctid am dros 25 mlynedd gan groesawu tua 300 o bobl ifanc 4-18 oed ar benwythnosau ac roedden nhw hefyd yn cynnig bwrseriaethau.
Dywedodd llefarydd ar ran y coleg: “Yn wahanol i sefydliadau yn Lloegr a’r Alban, ni chafodd adran iau CBCDC gymorth cyfatebol gan y llywodraeth... gan adael myfyrwyr o Gymru dan anfantais a chyfyngu ar eu mynediad at lwybrau elitaidd sydd ar gael mewn mannau eraill yn y DU.”
Be se’n i wedi ‘neud heb yr help?
Mae Nansi Rhys Adams wedi ennill sawl cystadleuaeth genedlaethol ac wedi perfformio yn y West End.
Mae hi bellach yn fyfyrwraig yn ysgol ddrama Mountview Academy of Theatre Arts yn Llundain.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: “Fi’n meddwl bod e’n golled fawr. Cymru nawr fydd yr unig le lle na fydd conservatoire sy’n helpu pobl i gael fewn i ysgol ddrama.
“Mae hynny’n golled fawr i Gymru achos ni’n wlad sy’n hoffi canu.
“Dwi yn fy ail flwyddyn ym Mountview ac yn fy mlwyddyn i, dim ond tri ohonom ni a’th i ysgol 'normal'.
“Dwi ddim yn gwybod be ‘sen i wedi ‘neud heb yr help yn y Coleg Cerdd a Drama.”
Mae Osian Davies sydd yn fyfyriwr ail flwyddyn yn ysgol ddrama y Bristol Vic yn dweud ei fod yn "drist iawn ein bod ni wedi colli yr adran iau yn y Coleg Cerdd a Drama”.
“Dwi yn yr ail flwyddyn yn Bristol Vic a fydden i ddim wedi cyrraedd ‘ma heb sesiynau penwythnos y Coleg Cerdd a Drama.
“Mae lot o gantorion yn mynd i golli mas ar fynd i ysgol ddrama gan bod ganddyn nhw ddim y cymorth ges i pan o’n i’n gwneud cais.”
‘Rhai teuluoedd wedi symud i Loegr’
Cyn y penderfyniad terfynol am ddyfodol gwasanaeth CBCDC cafodd deiseb ei chyflwyno i’r Senedd ym Mehefin eleni oedd yn cynnwys 10,560 o lofnodion yn galw am gymorth Llywodraeth Cymru.
Ym mis Medi cafodd y mater ei drafod gan y cyfarfod llawn.
Dywedodd Rhianon Passmore AS ar ran y Pwyllgor Deisebau eu bod "yn bryderus iawn am effaith toriadau cyllid ar lif datblygiad cerddorion talentog yng Nghymru, ac ar dreftadaeth ddiwylliannol ein cenedl fel gwlad y gân".
Yn ystod y drafodaeth dywedodd Heledd Fychan AS ei bod hi hefyd yn poeni am yr effaith ar bobl ifanc.
"Mae rhai plant wedi rhoi'r gorau iddi... mae rhai wedi cael trafferth dod o hyd i athrawon.
"Mae ein plant hefyd dan anfantais enfawr o ran cael clyweliadau i gerddorfeydd fel y gerddorfa plant genedlaethol neu'r gerddorfa ieuenctid genedlaethol sy'n help mawr i sicrhau lleoedd mewn colegau cerdd.
“Mae rhai teuluoedd wedi symud i Loegr, a chael clyweliadau ar gyfer ysgolion cerdd arbenigol fel Wells ac i geisio am ysgoloriaethau.
“Dywedodd rhiant arall wrthyf fod canlyniadau'r cau yn llym ac y bydd yr effeithiau'n cael eu gweld yn ddwfn yn y dyfodol, wrth i genhedlaeth gyfan o'r artistiaid ifanc Cymreig mwyaf talentog gael eu difreinio a'u cyfyngu i'r ychydig elît sy'n gallu fforddio hyfforddiant preifat.”
Cymru hefyd yw’r unig wlad yn y byd sy'n addysgu ar lefel mynediad conservatoire ôl-18, ond heb adran iau.
Dywed y Coleg Cerdd a Drama eu bod yn parhau i gefnogi ieuenctid Cymru ac y byddan nhw’n cynnal cyfres o weithdai cerddorol i fyfyrwyr o dan 18 ar ambell benwythnos.
Byddan nhw’n lletya aelodau o’r gerddorfa ieuenctid ac yn cynnig cyrsiau amrywiol yn ystod y gwyliau a’u gobaith yn y dyfodol agos yw datblygu rhaglen dalent genedlaethol i Gymru gyda chymorth arbenigwyr allanol.
Yn y cyfamser, mae rhai o gyn-staff y coleg a cherddorion eraill wedi ffurfio ysgol ym Mhenarth ar y cyd ag Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro.
Ar eu gwefan maen nhw'n nodi eu bod wedi ffurfio’r ysgol mewn cyfnod byr ac mai eu nod yw “darparu’r llwybr sydd ei angen ar fyfyrwyr i ddod o hyd i’w llais a’u cyfeiriad cerddorol eu hunain”.
Maen nhw hefyd wedi bod yn ceisio codi arian trwy gronfa Go Fund Me gan nad oes ganddyn nhw arian ar hyn o bryd i ariannu bwrseriaethau.
‘Pob sefydliad yn gyfrifol am reoli cyllid ei hun’
Ychwanegodd Rhianon Passmore AS o'r Pwyllgor Deisebau: “Ar hyn o bryd, ni all yr artistiaid iau sy'n derbyn bwrsariaethau o ogledd, canolbarth a gorllewin Cymru gael mynediad at lwybrau astudio elitaidd arbenigol yng Nghymru.
“Mae crebachu'r ddarpariaeth yn ergyd, ac yn hynod arwyddocaol i allu'r coleg i gefnogi dysgwyr o gefndiroedd tlawd, gan na allant fforddio teithio i Loegr."
Wrth gloi’r ddadl yn y Senedd dywedodd Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: “Dyrennir cyllid ar gyfer addysg uwch yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru i’r sector drwy Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac mae pob sefydliad yn gyfrifol am reoli ei gyllideb ei hun, sy’n cynnwys cyllid gan Lywodraeth Cymru ynghyd â ffynonellau incwm eraill.
“Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi addysg cerddoriaeth, ac mae'n ariannu'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol gyda buddsoddiad sylweddol, cyfanswm o £13 miliwn rhwng 2022 a 2025.
“Mae'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol hwn yn galluogi pob plentyn ac unigolyn ifanc tair i 16 oed i elwa ar gyfleoedd i chwarae offeryn cerdd, gan gynnwys drwy raglenni ysgolion fel Profiadau Cyntaf a Llwybrau Cerddoriaeth.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
- Cyhoeddwyd29 Medi 2022
- Cyhoeddwyd5 Mai 2024