Dyn yr yn ysbyty wedi achos o drywanu yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Heddlu'n ymchwilio wedi achos o drywanu yng Nghaerdydd nos Sadwrn.
Cafodd dyn 35 oed ei drin yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd wedi iddo gael ei drywanu.
Cafodd yr Heddlu eu galw tua 21:50 nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad yn ymwneud â sawl pherson yn Saeger Drive, Grangetown.
Nid oes unrhyw un wedi ei arestio hyd yn hyn ac mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Mae'r heddlu'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.