Arestio gyrrwr ar ôl marwolaeth beiciwr modur ger Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ar ôl gwrthdrawiad angheuol ar gyrion Bangor.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A487, ar dop Gallt y Faenol ger y cyffordd â Ffordd Penrhos, am 06:55 fore Iau.
Roedd hynny yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur Honda a Volkswagen Tiguan llwyd.
Fe gafodd y beiciwr modur ei gludo i Ysbyty Gwynedd, ychydig filltiroedd i ffwrdd, ond bu farw yno. Mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i'w deulu ac i'r crwner.
Mae gyrrwr y car wedi'i ryddhau gan yr heddlu dan ymholiad.
Diolch i bobl am helpu
Gan gydymdeimlo â theulu'r dyn a fu farw, mae'r llu'n apelio am wybodaeth neu luniau gan unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd o gwmpas adeg y gwrthdrawiad.
Mae'r Sarjant Liam Morris o'r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol hefyd wedi "diolch i'r rhai a stopiodd i helpu ac i yrwyr am eu hamynedd tra bo'r ffordd ar gau".
Fe ailagorodd y ffordd ychydig cyn 14:30 brynhawn Iau wedi i ymchwilwyr fforensig gynnal ymholiadau cychwynnol.