Palestine Action: Menyw, 79, yn 'difaru dim' ar ôl cael ei harestio

Roedd Elizabeth Morley yn un o dros 500 o bobl a gafodd eu harestio yn ystod y brotest
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 79 oed o Geredigion wedi dweud nad yw hi'n edifar ar ôl iddi gael ei harestio mewn protest yn Llundain a gafodd ei threfnu i gefnogi grŵp Palestine Action (PAG).
Roedd Elizabeth Morley, sy'n byw ger Aberystwyth, yn un o dros 500 o bobl gafodd eu harestio ar amheuaeth o dorri cyfreithiau terfysgaeth yn San Steffan ar 9 Awst.
Ym mis Gorffennaf, pleidleisiodd Senedd y Deyrnas Unedig i wahardd PAG fel mudiad terfysgol, ar ôl i'r grŵp hawlio cyfrifoldeb am dorri mewn i ganolfan yr awyrlu yn Brize Norton.
Dywed Elizabeth Morley, yn ei barn hi, fod y gwaharddiad yn "gyfraith anghyfreithlon" ac nad yw PAG yn fudiad terfysgol.
'Rwy'n eich arestio chi'
Yn y brotest yn Llundain roedd cannoedd o bobl yn dal placardiau gyda'r neges 'Rwy'n gwrthwynebu hil-laddiad. Rwy'n cefnogi Palestine Action' wedi'i hysgrifennu arnyn nhw.
Mae Israel wedi gwadu cyhuddiadau o hil-laddiad, ac mae'r honiadau yn cael eu hystyried gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol.
Ers i PAG gael ei wahardd, mae aelodaeth o'r grŵp neu ddangos cefnogaeth iddo yn drosedd o dan y Ddeddf Terfysgaeth.
Cafodd Elizabeth Morley ei harestio o dan adran 13 o'r ddeddf, sy'n cario dedfryd uchaf o chwe mis yn y carchar.
Dywedodd bod cannoedd o bobl wedi eistedd ar y llawr pan ddechreuodd y brotest am 13:00, ond na allai hi eistedd gan fod ganddi arthritis.
Ar ôl sefyll yn llonydd am ddwy awr, ceisiodd gerdded pellter byr yn agos at ble roedd hi wedi bod yn sefyll.

Dywed Elizabeth Morley, yn ei barn hi, fod y gwaharddiad yn "gyfraith anghyfreithlon" ac nad yw PAG yn fudiad terfysgol
"Sylweddolais fod heddwas yn sefyll wrth fy ymyl, a dywedodd 'Esgusodwch fi madam, allwch chi ddim gwneud hynny, mae llinell yr heddlu yma,'" meddai.
"Dywedais i, 'O, mae'n ddrwg gen i, do'n i ddim wedi sylweddoli.'
"A dywedodd e, 'Ga i weld beth y'ch chi'n ei ddal?' Dangosais i fy mhlacard, a dywedodd e 'Rwy'n eich arestio chi.'"
Ar ôl hynny, dywed Ms Morley iddi ddweud wrth yr heddwas ei bod hi am fod adref erbyn dydd Llun "oherwydd mae fy nheulu'n dod ddydd Mawrth".
Mae fideo a gafodd ei bostio ar-lein yn ei dangos yn cerdded yn ansicr ac yn cael ei helpu tuag at fan heddlu gan blismon.
"Ro'n i'n flinedig iawn am fy mod i wedi bod yn sefyll gyda fy nghoesau'n stiff am ddwy awr, ac ro'n i'n cael anhawster cerdded," meddai.
"Dywedais wrth [yr heddwas] 'Ga i gymryd eich braich?' a dywedodd 'Ie, peidiwch â phoeni, byddwn ni'n cymryd hi'n araf.'"
'Pobl am wynebu'r canlyniadau'
Dyma oedd y tro cyntaf erioed i Ms Morley gael ei harestio.
Cafodd ei rhyddhau ar 'fechnïaeth stryd' gyda'r amod na fydd hi'n mynd i unrhyw brotestiadau eraill i gefnogi PAG.
Mae'n rhaid iddi fynychu gorsaf heddlu yn Llundain ym mis Hydref.
Ar ôl y brotest dywedodd Syr Mark Rowley, Comisiynydd Heddlu'r Met, fod swyddogion wedi gweithio'n gyflym "i oresgyn ymdrechion i orlwytho'r system gyfiawnder", ac roedden nhw'n prosesu ffeiliau y rhai a gafodd eu harestio.
Ychwanegodd Syr Mark: "Ry'n ni'n gallu ymchwilio a chyhuddo nifer sylweddol o bobl yn gyflym bob wythnos os yw pobl am wynebu'r canlyniadau o gael euogfarn derfysgol, sy'n rhywbeth a allai newid bywydau."
Daeth y gwaharddiad ar PAG ar ôl i'r grŵp hawlio cyfrifoldeb am dorri i mewn i ganolfan yr awyrlu yn Brize Norton lle cafodd dwy awyren eu chwistrellu â phaent, gan achosi tua £7m o ddifrod.

Dywedodd Elizabeth Morley - sy'n byw ger Aberystwyth - nad oedd ganddi reswm i beidio cymryd rhan yn y brotest yn Llundain
Mae PAG wedi cael caniatâd i herio'r penderfyniad i'w wahardd yn yr Uchel Lys.
Bydd gwrandawiad ym mis Tachwedd lle bydd y gwaharddiad yn cael ei adolygu.
Dywedodd Mr Ustus Chamberlain y bydd aros am benderfyniad ar y gwaharddiad "yn cael effaith ar ryddid mynegiant yr hawlydd ac eraill, a'u rhyddid i brotestio ar fater o bwys sylweddol iddynt".
Ers i PAG gael ei wahardd, mae mwy na 700 o bobl wedi cael eu harestio am ddangos cefnogaeth iddo, ac mae tri wedi cael eu cyhuddo.
'Cwestiwn ynghylch y rhyddid i brotestio'
Dywedodd Dylan Rhys Jones, cyn-gyfreithiwr a sylwebydd ar y gyfraith, y bydd y gwrandawiad yn yr uchel lys yn allweddol i'r hyn sy'n digwydd ar ôl i gannoedd o bobl gael eu harestio.
"Mae cwestiwn ynghylch y rhyddid i brotestio, a roddir i bob unigolyn o dan y Ddeddf Hawliau Dynol, a sut mae hyn yn gwrthdaro â'r penderfyniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cartref mewn perthynas â Palestine Action," meddai.
"Mae angen datrys ac egluro'r ddwy ochr wrthgyferbyniol hynny i'r unigolion sy'n wynebu erlyniad.
"Os canfyddir eu bod yn aelodau o grŵp sydd wedi'i wahardd o dan y Ddeddf Terfysgaeth, yna gall y canlyniadau fod yn eithaf difrifol, a gallent gael eu hunain yn treulio cyfnod dan glo."

Yn ôl Dylan Rhys Jones, bydd yr uchel lys yn pwyso a mesur y gwaharddiad ar Palestine Action yn erbyn yr hawl i brotestio
Roedd dros hanner y rhai a gafodd eu harestio ger adeilad y Senedd yn Llundain dros 60 oed.
Mae Ms Morley yn dweud mai'r rheswm am hyn yw bod ganddyn nhw lai i'w golli o gael record droseddol.
"Does gennym ni ddim plant bach, dim perthnasau oedrannus i ofalu amdanynt, dim swyddi i boeni amdanynt.
"Dydw i ddim yn teithio dramor, felly doedd dim rhaid i mi boeni y gallwn gael fy ngwrthod rhag cael fisa. Felly doedd gen i ddim rheswm i beidio â chymryd rhan.
"Dwi ddim yn difaru. Ro'n i'n falch o'r cyfle i wneud yr hyn ro'n i'n meddwl oedd y peth iawn.
"Rwy'n dal i feddwl mai dyma'r peth iawn - anfon neges gref iawn at y llywodraeth eu bod nhw - heb sôn am fod ar ochr anghywir hanes – eu bod nhw ar yr ochr anghywir nawr."
'Byddai fy rhieni'n troi yn eu beddau'
Daeth Elizabeth i'r Deyrnas Unedig gyda'i rhieni, a oedd yn Iddewon, ym 1957.
Roedden nhw'n ffoaduriaid o Hwngari a oedd wedi'i meddiannu gan yr Undeb Sofietaidd ar y pryd, ac roedden nhw'n dianc rhag gormes y gyfundrefn gomiwnyddol.
"Byddai fy rhieni'n troi yn eu beddau pe bydden nhw'n gwybod beth sy'n digwydd yma nawr i'r rhyddid yr oeddem ni wrth ein bodd yn ei brofi ym 1957, a bod y rhyddid hwnnw fel pe bai dan fygythiad nawr," meddai.
Wrth amddiffyn y gwaharddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper nad oedd Palestine Action yn "sefydliad di-drais" a'i fod yn fwy na "grŵp protest arferol sy'n adnabyddus am styntiau achlysurol".
Dywedodd fod PAG wedi bod "yn rhan o ymosodiadau treisgar" a "difrod troseddol mawr yn erbyn seilwaith diogelwch cenedlaethol".
Ychwanegodd Ms Cooper: "Mae'n bosib nad yw'r bobl sy'n gwrthwynebu'r gwaharddiad yn gwybod natur lawn y grŵp yma, oherwydd cyfyngiadau llys ar adrodd manylion tra bod erlyniadau difrifol ar y gweill."
Dywedodd Heddlu'r Met fod PAG hefyd wedi'i gysylltu â honiadau o ymosodiad difrifol ar staff a swyddogion heddlu mewn safle busnes yn Ne Sir Caerloyw.
Ymateb y Swyddfa Gartref
Mewn ymateb fe wnaeth y Swyddfa Gartref gyfeirio at erthygl ddiweddar gan Yvette Cooper ym mhapur newydd The Observer.
Yn yr erthygl dywedodd yr ysgrifennydd cartref bod protest a rhyddid barn "yn rhan bwysig o'n democratiaeth a bydd y rhyddid hwnnw bob amser yn cael ei ddiogelu".
Ychwanegodd Ms Cooper bod gan unrhyw un sydd am brotestio yn erbyn y sefyllfa ddyngarol drychinebus yn Gaza a gwrthwynebu ymosodiadau byddin Israel y rhyddid i wneud hynny, a nad yw'r gwaharddiad ar Palestine Action yn atal hynny.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref bod y gwaharddiad yn ymateb i ymgyrchoedd gan y grŵp sy'n cynnwys difrod troseddol, a hefyd bygythiadau, trais, ac anafiadau difrifol i unigolion.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.