Cymeradwyo fferm solar fawr ddadleuol ar Ynys Môn

Map o gynlluniau Enso EnergyFfynhonnell y llun, Enso Energy
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y paneli yn cael eu gosod i'r de o Lyn Alaw

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun dadleuol i greu fferm ynni solar fawr ar Ynys Môn wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Bydd datblygiad Alaw Môn yn gweld paneli yn cael eu gosod dros 660 acer o dir ger Llyn Alaw yng nghanol Ynys Môn, gan gynhyrchu digon o ynni i bweru tua 34,000 o gartrefi.

Yn ôl y datblygwyr Enso Energy, bydd y cynllun 160MW yn cynhyrchu digon o drydan i ddiwallu anghenion holl gartrefi'r ynys.

Ond mae'r prosiect wedi derbyn gwrthwynebiad chwyrn o'r cychwyn cyntaf, gyda thrigolion lleol yn poeni am golli tir amaethyddol o safon, a'r nifer cynyddol o ffermydd solar sy'n cael eu datblygu ar yr ynys.

Protest solar Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Daeth tua 150 o bobl ynghyd yn Llangefni yn ddiweddar i brotestio yn erbyn datblygiad Alaw Môn, yn ogystal â chynllun arall Maen Hir

Cafodd y penderfyniad am y cynllun ei oedi ym mis Tachwedd 2024 yn dilyn dros 500 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Mae dros 900 o bobl hefyd wedi llofnodi llythyr agored yn gwrthwynebu'r cynllun.

Mae'r Aelod lleol o'r Senedd, Rhun ap Iorwerth a'r Aelod Seneddol San Steffan, Llinos Medi wedi galw'r penderfyniad yn un "hynod o siomedig".

Maen nhw'n cyhuddo Llywodraeth Cymru o "anwybyddu pryderon" pobl leol am y cynllun.

Wrth ddatgan ei chefnogaeth i'r cynllun mae Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans yn cydnabod bod yna ffactorau negyddol posib i'r cynllun, gan gynnwys effaith hirdymor posib ar y tir.

Ond yn ei llythyr mae'n dweud bod "buddion y cynllun yn drech nag unrhyw effeithiau niweidiol", gan gynnwys amcan tymor hir targed Llywodraeth Cymru o gynhyrchu 70% o'r trydan a ddefnyddir trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2030 er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Wrth ymateb dywedodd Philippa Chisnall o Lannerch-y-medd: "Fel rhywun lleol, rwy'n bryderus iawn ynghylch y penderfyniad i gymeradwyo prosiect Alaw Môn.

"Rydym i gyd yn cydnabod yr angen am ynni adnewyddadwy, ond ni ddylai ddod ar draul rhai o diroedd fferm gorau'r ynys ac heb ystyriaeth wirioneddol i leisiau cymunedol.

"Yr hyn sydd ei angen arnom yw dull tecach lle mae prosiectau'n cael eu rhannu ar draws y DU, fel bod y manteision a'r beichiau'n cael eu cydbwyso."

Mae datblygiad mwy fyth yn yr arfaeth ar Ynys Môn hefyd - cynllun Maen Hir, fyddai'n cynhyrchu dros 350MW, bron bum gwaith yn fwy na'r fferm solar weithredol fwyaf yn y DU.

Llywodraeth y DU fydd yn penderfynu ar y cynllun hwnnw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.