Y beiciwr mynydd o Lanrug sy'n cystadlu ar y lefel uchaf

Osian MorrisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  • Cyhoeddwyd

Tydi rasio beic i lawr mynydd serth mor gyflym â phosib ddim at ddant pawb mae'n debyg.

Ond dyna sy'n mynd â bryd un hogyn ifanc o Gymru sy'n prysur wneud enw iddo'i hun ym myd beicio mynydd i lawr allt.

Mae Osian Morris o Lanrug yn cael ei gyfrif yn drydydd drwy Brydain am ei oed ac mae o eisoes wedi ennill rasys eleni yn Fort William yn Yr Alban, ac un arall yn Stockport.

Y penwythnos diwethaf roedd yr hogyn 16 oed yn cystadlu yn erbyn 85 o feicwyr ifanc gorau'r cyfandir yn Les Menuires yn yr Alpau Ffrengig.

Disgrifiad,

Osian Morris yn cystadlu ym mhencampwriaeth beicio mynydd Les Menuiers

Gyda'i dad, David, a'i fam, Donna, ill dau yn diddori yn y gamp, roedd yn naturiol i Osian hefyd fod â diddordeb mewn beicio mynydd, a dechreuodd gymryd rhan mewn rasys bychain yn lleol ac yn Yr Alban pan oedd o'n chwech oed.

Bachgen gyda'i feicFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Osian yn hogyn ifanc

Wedi i gyfnod Covid ddod â phopeth i stop am ychydig, ail-gydiodd yn y gamp yn 2022 pan oedd o'n 13 oed.

"Dwi'n cofio mynd i rasys hollol downhill ar Y Berwyn ac yn Llangynnog," meddai Osian.

"Roedd bob dim yn berffaith. Roedd hi'n sych drwy'r wicend, roeddwn i hefo'n ffrindiau, roedd yr awyrgylch yn grêt, a nesh i gael y bug."

Bachgen gyda beic mynyddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae'r nifer o rasys rasio mynydd lawr allt yn cael eu cynnal drwy'r flwyddyn gyda phum ras "genedlaethol" bob blwyddyn, a thri neu bedwar o'r rhain fel arfer yng Nghymru.

Yn 2023, coronwyd Osian yn Bencampwr Lawr Allt Cymru a daeth yn drydydd yng nghyfres Genedlaethol y DU.

Osian ar y podiwmFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Osian ar y podiwm ar ôl ennill yn y National Series, ras yn Fort William, ar y World Cup track ar 11 Mai, 2025

Y llynedd roedd yn y 10 uchaf mewn cyfres drwy Brydain a daeth yn wythfed ym Mhencampwriaethau Lawr Allt Cenedlaethol Yr Almaen.

Eleni daeth yn 19eg ym Mhencampwriaeth Ewrop yng Nghatalonia, ble bu'n cystadlu yn erbyn 88 o feicwyr mynydd ifanc gorau Ewrop.

Bellach mae Osian yn cael ei gydnabod fel un sydd â photensial sylweddol gan y corff sy'n hyrwyddo beicio ym Mhrydain.

Mae'n un o bedwar sydd wedi eu henwebu i ddilyn rhaglen academi British Cycling, sy'n golygu fod y corff yn ei ystyried yn rasiwr crefftus, sy'n gweithio'n galed a fod ganddo'r potensial i ddatblygu yn athletwr llwyddiannus ar lefel byd-eang.

Ond fel mewn unrhyw gamp, i gyrraedd y brig mae angen ymarfer caled, rheolaidd, gyda'r diriogaeth fynyddig o gwmpas Llanrug yn le delfrydol iddo ddatblygu.

"Dwi'n gorfod gwneud lot o ymarfer," meddai Osian. "Dwi'n reidio fy meic bob dydd pan alla'i."

Yn y gaeaf mae mwy o waith corfforol yn y gampfa a dringo, sy'n datblygu cryfder craidd y corff.

Osian gyda'i feicFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Ac mae cystadlu ar y lefel uchaf hefyd yn golygu ymrwymiad mawr gan rieni Osian wrth iddynt ei gludo ef, ei feics, a'i offer o gwmpas Prydain - a bellach Ewrop - yn eu fan.

Y penwythnos diwethaf roedd yn cystadlu yn Ffrainc, ac roedd fan y teulu eisoes yno – cafodd ei gadael yn ddiogel yno wedi i Osian gystadlu yn Sbaen ddiwedd Gorffennaf.

Dywedodd David: "Ma'r ddau ohonon ni'n gorfod gwneud lot o jyglo gwyliau a 'ballu. Fel rheol, un ohonon ni sy'n gwneud y tripiau ond ma'r ddau ohonon ni wedi manijo i gael amser rhydd i ddod i Ffrainc."

A tra bod yr holl deithio yn gallu bod yn fwrn, mae ochr bositif i'r holl beth hefyd gan greu amser i'r teulu gyda'i gilydd ac Osian yn cael amser i astudio ar gyfer ei arholiadau TGAU wrth deithio.

Meddai Donna: "Rydan ni'n prowd iawn o sut mae Osh wedi astudio. Roedd paratoi ar gyfer y TGAU yn her fawr ac fe fuodd 'na amryw o benwythnosau ar y ffordd ac mewn apartments hefo llyfrau ym mhobman.

"Roedd o hefyd yn stydio yn y fan wrth i ni drafaelio, ac mewn un ffordd roedd o'n amser rili da i ni fel teulu, yn sgwrsio, adolygu a mynd dros gwestiynau.

"A chwarae teg, mae o wedi pasio'r cwbl lot."

BeiciwrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Osian yn beicio tra'n ifanc

Ond nid mynd yn ôl i Ysgol Brynrefail fydd Osian fis Medi. Yn hytrach mae'n pacio'i fag ac yn teithio i Galashiels yn Yr Alban i astudio chwaraeon am dair blynedd ac i ddatblygu ei sgiliau beicio ymhellach.

Dyma'r unig gwrs o'i fath ym Mhrydain ac mae ef, a'r tri beiciwr arall sydd wedi cael lle ar y cwrs, yn dilyn rhai o feicwyr enwog y gamp drwy ddrysau'r coleg.

Mae reidio beic ar gyflymdra o hyd at 40km yr awr (25 mya) i lawr mynydd yn dod â pheryglon amlwg, ond mae'n rhaid i Osian a'i rieni roi hynny o'r neilltu i lwyddo.

Dywedodd Osian: "Mae 'na ofn yna, ond dim llawer. Dwi'n gweld ei fod o'n scary ond ti'n gorfod ei wneud o.

"Dwi'n sbïo ar y trac a'i wneud o. Dwn i'm be' sy'n mynd mlaen yn fy mhen i!

"Rydw i'n astudio'r trac ymlaen llaw ond yn aml ma'r trac yn newid wrth i'r ras, a'r tywydd, ddatblygu. Weithiau mae angen addasu'n rili sydyn wrth i bethau newid o 'mlaen i.

"Mae o'n reit debyg i be' mae driefars ceir rali yn gorfod gwneud wrth i'r ffordd ddatblygu o'u blaenau nhw."

Ac meddai Donna: "Ti'n gorfod gwthio dy limits yn dwyt. Mi rydw i'n mynd yn nerfus ofnadwy, ond dyna'r her fel rhiant – ti'n gorfod trystio fo i wneud y penderfyniadau ei hun."

Ychwanegodd David fod yna ddywediad yn y gamp: "Crashing is progressing."

Ac er bod Osian yn dod oddi ar ei feic yn rheolaidd, mân anafiadau yn unig mae wedi dioddef yn bennaf.

"Dw'i wedi bod yn lwcus," meddai. "Dw'i wedi torri mawd a brifo mhen-glin unwaith, ond dyna fo."

Ac er mai rhyw dri munud a hanner mae'n cymryd i ddod o ben uchaf y cwrs i'r gwaelod, mae oriau o astudio pob cwrs yn digwydd ymlaen llaw.

Mae pob beiciwr yn cerdded y trac a'i astudio mewn manylder ymlaen llaw – gall hyn gymryd rhyw awr a hanner.

Cyn rasio yn yr Alpau, dywedodd Osian: "Dwi wedi cerdded y trac yma y pnawn 'ma yn edrych ar y drops, y gaps, penderfynu be' ydi'r ffordd orau i ddod i mewn ac allan o bob tro, naid a chwymp – mae 'na lot o feddwl gofalus angen ei wneud ymlaen llaw."

Ac er bod Osian yn siomedig i orffen yn 23ain allan o 85 yn Les Menuires y penwythnos diwethaf, mae wedi adlewyrchu ar yr hyn ddigwyddodd ac wedi ymrwymo mwy nag erioed i gael hyd i fwy o gyflymder.

Meddai Donna: "Mae'r sgil ganddo fo, ond mae lot o hyn yn y pen hefyd gan drio taro cydbwysedd rhwng cyflymdra, llif a rheolaeth.

"Mae o'n gamp reir brutal, ond dal ati ydi'r ateb i'r wers bywyd yma."

Beiciwr yn yr awyrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

'Fflîo mynd'

Yn ogystal â chymryd llawer o amser, mae'r holl deithio a chystadlu hefyd yn llyncu arian ac mae Osian wedi sefydlu tudalen ar y we i geisio denu cefnogaeth ymarferol.

Dywedodd Donna: "Rydan ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma, ond mae'r rhan fwya' o'r costau yn dal i gael ei dalu gan Mam a Dad!

"Mae Marathon Eryri ac Antur Stiniog hefyd wedi bod yn gefnogol iawn, yn ogystal â nifer o gwmnïau lleol, ffrindiau a theulu – ma'n diolch ni'n fawr iddyn nhw i gyd."

A pan nad ydi o'n cystadlu ar benwythnosau mae Osian yn ddiolchgar i gael cefnogaeth a gwaith gan gwmni beicio lleol.

Beth am y dyfodol i Osian felly?

Mae yn ei flwyddyn olaf yn y categori Ieuenctid ac yn cystadlu ym mhob ras yn y Gyfres Genedlaethol yn y DU a thair ras yng Nghyfres Gyfandirol Ewrop.

Mae mynychu a gwneud yn dda yn y digwyddiadau hyn yn hanfodol i gynyddu ei siawns o gael ei ddewis y flwyddyn nesaf i wisgo crys Prydain yn nigwyddiadau Cwpan y Byd ar gyfer rhai dros 16 oed.

"Dwi'n gobeithio ga'i gystadlu mwy ar lefel Ewropeaidd flwyddyn nesa'," meddai Osian.

"Mae yna ddwy ras yn America y baswn i'n licio cystadlu ynddyn nhw ac o bosib fe ga'i fy newis i gymryd rhan yng Nghwpan y Byd flwyddyn nesa' hefyd.

"Mae hwn yn gyfres o 10 ras gydag un ras arall ar wahân sy'n Bencampwriaeth y Byd – dwi'n gobeithio mynd i fan'no."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig