Clwb pêl-droed arall Wrecsam sy'n gwneud gwahaniaeth i'r dref

Noson hyfforddi tîm Bellevue FC
- Cyhoeddwyd
Nid dim ond un tîm pêl-droed sy'n gwneud gwahaniaeth yn ninas Wrecsam. Heb arian Hollywood na rhaglen ddogfen i'w henw, mae Bellevue FC yn cael effaith fawr ar griw o bobl ifanc yn Wrecsam.
Dyma'r tîm pêl-droed cynhwysol, aml-ethnigrwydd cyntaf sydd wedi'i gorfestru gyda chynghrair yng Nghymru.

Dilwyn 'Sheep' Derrick, un o sylfaenwyr y clwb
Cafodd ei sefydlu yn 2016 gan dri ffrind ym mharc Bellevue, Wrecsam, wrth ymyl coeden â thro yn ei boncyff. Nawr, darlun o'r goeden honno yw canolbwynt bathodyn y tîm.
Delwyn Derrick, neu Sheep i'w ffrindiau, oedd un o'r tri ffrind a sefydlodd y tîm. Dywedodd:
"Does dim ateb dwfn am pam sefydlais i'r clwb efo fy ffrindiau. Roedd y cae pêl-droed ar fin cael ei ddadgomisiynu, a'r unig ffordd i rwystro hynny oedd defnyddio'r cae. Felly fe benderfynon ni sefydlu clwb."
Ar y pryd, roedd Sheep yn chwarae pêl-droed gyda nifer o bobl o ethnigrwydd lleiafrifol, du neu Asiaidd a'r dynion rheiny oedd y rhai a ymunodd â'r tîm.
Dywedodd "Doedd dim un penderfyniad gafodd ei wneud i fod yn dîm cynhwysol ac aml-ethnigrwydd yn benodol.
"Roedd yn ddamwain hapus, fel dw i'n hoffi ei ddweud, ein bod ni wedi syrthio mewn i'r niche pêl-droed yma."
Bron i ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae'r clwb yn dal i dyfu gydag aelodau niwroamrywiol ac aml-ethnig yn dod at ei gilydd i chwarae pêl-droed cystadleuol yn wythnosol.
"Mae gan bob un person sy'n dod i'r clwb yma ei stori ei hun, boed hynny fel chwaraewr, hyfforddwr, gwirfoddolwyr, gweinyddwyr – mae gan bob un reswm dros fod yma – a'r straeon hynny efo'i gilydd sy'n gwneud stori ein clwb ni'n un werth ei dweud," eglurodd Sheep.

Mae Nigel Guaramatunhu yn dweud fod y clwb "fel teulu" iddo
Un o'r bobl hynny yw Nigel Guaramatunhu, o Zimbabwe. Dywedodd ei fod o wedi clywed am y tîm gan ffrind iddo wrth chwarae gêm pump bob ochr.
"Roedden nhw'n fy ngweld i'n chwarae'n weddol dda felly wnaethon nhw ofyn os o'n i eisiau ymuno â Bellevue. 'Nes i ddechrau hyfforddi efo nhw ac aeth popeth yn dda.
"Mae'r clwb fel teulu i mi. Mae popeth yn oce pan dw i ar y cae efo nhw. Maen nhw'n golygu llawer i mi."

Kentus Augustin sy'n dweud bod cyfarfod pobl o genedligrwydd arall yn "hyfryd o beth". Sylwch ar y goeden â thro yn y boncyff ar logo ei grys.
Ymunodd Kentus Augustin o ynys St Lucia â'r clwb fis Rhagfyr 2024, ac mae yntau wedi dod o hyd i'w bobl yno hefyd.
"Mae Bellevue FC wedi bod fel cymuned i mi. Rydym ni'n cael cyfarfod nifer o wahanol bobl o wahanol gefndiroedd. Mae'n dda, yn enwedig mewn ardal fel hon sy'n wyn yn bennaf. I gael cyfarfod pobl o genedligrwydd arall yma yn Wrecsam, mae'n hyfryd o beth.
"Gallwch weld fod ethos y clwb yn gryf ac wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn diwylliant Cymreig ond hefyd mewn diwylliant rhyngwladol," meddai.
"Mae Sheep, fel 'dyn ni'n ei alw fo, wedi gwneud llawer o waith da i fod yn gynhwysol. Does neb yn cael eu gadael allan, a does neb yn teimlo wedi'u hanwybyddu."

Craig Colville, Cadeirydd y clwb
Mae Craig Colville wedi dilyn y clwb ers blynyddoedd, ond ers rhyw ddwy flynedd mae wedi cymryd rôl Cadeirydd y clwb. Dywedodd:
"I bobl sy'n rhan o'r clwb... mae o am fwy na chicio pêl, mae o am wneud ffrindiau a gwneud cysylltiadau a theimlo'n gartrefol yn Wrecsam.
"Mae cael dy enwebu am unrhyw wobr yn dangos bod y clwb yn gwneud rhywbeth diddorol, a hwyrach rhywbeth gwahanol. Mae'n dangos fod pobl yn gweld fod be' mae'r clwb yn ei wneud yn beth da.
"Wrth edrych i'r dyfodol, rydyn ni eisiau tyfu'r clwb, ond mae o angen ychydig o TLC. Rydyn ni'n chwilio am gartref i'r clwb fel bod gan y tîm le i'w alw'n gartref."

Diwrnod gêm
Mae'r clwb wedi'i enwebu am wobr Gwneud Gwahaniaeth BBC Cymru Wales yng nghategori Gwobr Actif, a hynny ynghyd â FarmFit, Clwb Bocsio Amateur Tiger Bay, a Rachael Hobbs sy'n cynnal teithiau cerdded a nofio gwyllt am ddim yn y gymuned.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf