Llai o brynu ail gartrefi yng Ngwynedd ers rheol Erthygl 4

Arwydd tŷ
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl rhai trigolion lleol, mae llai yn awyddus i brynu ail gartref ym Morfa Nefyn ers i Gyngor Gwynedd gyflwyno mesur i fynd i'r afael ag ail gartrefi

  • Cyhoeddwyd

Bron i flwyddyn ers i Gyngor Gwynedd ddod â mesur Erthygl 4 i rym, mae ffigyrau newydd yn dangos bod llai o ail gartrefi wedi eu prynu yn y sir dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn golygu bod yn rhaid i berchnogion gael caniatâd cynllunio gan y cyngor cyn bod modd trosi eiddo yn dŷ gwyliau neu'n ail gartref.

Ym Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn mae trigolion yn dweud bod llai o bobl yn awyddus i brynu ail gartref yn yr ardal o ganlyniad i'r mesur hwn.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod y sir "dan bwysau sylweddol oherwydd prinder tai anaddas a bod cyfres o fesurau ar waith" i wyrdroi hynny.

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae 17.4% o stoc dai Morfa Nefyn a'r ardal ehangach bellach yn ail gartrefi.

Ond mae ystadegau yn dangos bod llai wedi prynu tai ac yna eu troi'n ail gartrefi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae data gan Awdurdod Cyllid Cymru yn dangos fod 250 eiddo yng Ngwynedd wedi cael ei brynu i fod yn ail gartref rhwng Gorffennaf 2024 a Mehefin 2025, o'i gymharu â 290 eiddo yn yr un cyfnod yn 2023/24," meddai'r cyngor.

Ond mae ffigyrau Cymdeithas Adeiladu Principality hefyd yn dangos bod prisiau tai drwy Wynedd wedi gostwng 7.2% o gymharu â'r un adeg y llynedd.

William Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae mesurau'r cyngor wedi mynd yn rhy bell, ym marn William Owen, sy'n troi'r tŷ ble cafodd ei fagu yn llety gwyliau

Mae mesur Erthygl 4 wedi hollti barn, gyda rhai yn dweud ei fod wedi arwain at ostwng gwerth eiddo, tra bod eraill yn dweud ei fod yn gwneud tai i bobl leol yn fwy fforddiadwy.

Ond yn ôl William Owen, sydd yn y broses o drosi'r tŷ a gafodd ei fagu ynddo yn llety gwyliau, mae mesurau'r cyngor wedi mynd yn rhy bell.

"Dwi'n gweld hi hollol fel arall," meddai Mr Owen, sy'n byw yn Nefyn.

"Mae Morfa Nefyn 'di bod yn le mae pobl yn dod ar eu gwyliau ers blynyddoedd ac yn lle bo' fi'n gwerthu'r tŷ fel ail dŷ, fydd hwn yn le all bobl ddod a rhoi pres i'r ardal.

"Maen nhw [Cyngor Gwynedd] yn mynd o'i chwmpas hi yn hollol wrong.

"Maen nhw 'di gwerthu y tai - be' 'sa ni arfer galw'n tai council blynyddoedd yn ôl - ac heb adeiladu dim yn eu lle nhw.

"Felly pam dyle ni, pobl sydd bia tai, cael ein dial am oherwydd ffolineb Cyngor Gwynedd?"

Nick Brown
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nick Brown yn talu'r dreth uwch ar ei eil gartref ym Morfa Nefyn, ond yn dadlau mai sicrhau gwaith ar gyfer pobl ifanc lleol ddylai fod yn flaenoriaeth

Ers Ebrill 2023 mae'n rhaid i berchnogion ail gartrefi yn y sir dalu premiwm treth cyngor o 150% ar eu heiddo.

Mae nifer o drigolion Morfa Nefyn wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod codi'r dreth, ynghyd ag Erthygl 4, yn golygu bod llai yn awyddus i fod ag ail gartref.

Ond nad ydy hynny wastad yn golygu fod y tai hynny yn fforddiadwy, wedyn.

Mae gan Nick Brown, sy'n dod o Sir De Efrog, ail gartref ym Morfa Nefyn ac mae felly yn talu'r dreth uwch.

"Dwi'n meddwl fod o wedi mynd ychydig yn rhy bell rŵan," meddai.

"Dwi'n meddwl y broblem fwya' ffordd hyn, ac allwch chi siarad efo unrhyw un lleol, ydi gwaith. Gwaith mae pobl yma eisiau."

Mae'n dweud bod polisïau Cyngor Gwynedd wedi arwain at gartrefi'n colli peth o'u gwerth, a'i bod hi'n amlwg fod mwy yn gwerthu eu tai.

Mae'n cydnabod ei fod "yn rhan o'r broblem, o bosib", ond yn dweud mai swyddi ddylai'r flaenoriaeth fod i gadw pobl ifanc yn lleol.

Iwan Rhys Evans
Disgrifiad o’r llun,

Twristiaeth sy'n "amharu" ar gymunedau lleol sy'n destun pryder i Iwan Rhys Jones, yn hytrach na'r diwydiant yn ei grynswth

Yn ôl Iwan Rhys Evans, sy'n 23 oed ac yn dod o Forfa Nefyn, mae'n rhaid gweithredu os am gadw'r gymuned yn fyw.

"Yr unig beth 'dan ni eisiau gwneud ydi gwarchod ein cymunedau Cymraeg," meddai.

"Does ganddon ni ddim byd yn erbyn Saeson na thwristiaeth [a'u gweld yn] dod yma ar eich gwyliau, ond bod chi ddim yn amharu ar ein cymunedau ni.

"Unwaith mae'r cymunedau'n mynd, maen nhw 'di mynd."

Arwydd 'Gwerthwyd' tu allan i eiddo ar bwys y brif ffordd drwy Forfa Nefyn
Disgrifiad o’r llun,

Nod y mesurau, medd Cyngor Gwynedd, yw sicrhau "marchnad dai lleol mwy cytbwys"

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd mai un o'u prif flaenoriaethau ydy sicrhau cynaliadwyedd hirdymor cymunedau.

"Mae'r sir o dan bwysau sylweddol oherwydd prinder tai addas, a adlewyrchir yn y bron i 4,000 o bobl sydd ar y gofrestr tai cymdeithasol ar hyn o bryd a'r 956 o aelwydydd a gyflwynodd eu hunain yn ddigartref yn ystod 2023-24.

"Mewn ymateb, mae'r cyngor wedi cyflwyno cyfres o fesurau gyda'r nod o greu marchnad dai lleol mwy cytbwys.

"O ran y Cyfarwyddyd Erthygl 4, dangosodd ymchwil a wnaed cyn cyflwyno'r polisi ym Medi 2024 fod dros 65% o aelwydydd Gwynedd wedi eu prisio allan o'r farchnad dai, gyda'r ganran yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd hynny o'r sir sydd â nifer uchel o gartrefi gwyliau.

"Dyma un o'r rhesymau pam y cyflwynodd Cyngor Gwynedd Gyfarwyddyd Erthygl 4, gyda'r nod o gael gwell rheolaeth dros y stoc tai presennol a chwrdd ag anghenion cymunedau lleol.

"Bydd y cyngor yn ymgymryd â gwerthusiad a monitro parhaus o'r ymyraethau sydd wedi ei roi ar waith er ceisio ymateb i argyfwng tai'r sir."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig