Ficer wedi hawlio miloedd o bunnau am waith na wnaeth ei wneud

Hawliodd Ryan Forey yr arian wrth oruchwylio Citizen Church yn ardal Cathays yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth ficer o Gaerdydd hawlio miloedd o bunnau iddo ef a'i wraig am waith na chafodd ei gyflawni, a sefydlu ei eglwys ei hun heb ganiatâd - yn ôl tribiwnlys.
Hawliodd Ryan Forey, 35, yr arian wrth oruchwylio Citizen Church yn y brifddinas, yn ôl tribiwnlys yr Eglwys yng Nghymru.
Sefydlodd Mr Forey ap hefyd, oedd yn caniatáu i ddefnyddwyr weld enwau'r plant oedd yn mynychu'r eglwys - yn cynnwys plant mewn gofal, gan dorri rheolau diogelu.
Fe gyfaddefodd i'r cyhuddiadau ac fe gafodd orchymyn i gael hyfforddiant cyn y gallai ddychwelyd i'w rôl.
Dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn "derbyn cyfrifoldeb am y cyhuddiadau ac yn difaru'r camgymeriadau a wnes i".

Cafodd Ryan Forey ei wneud yn gyfrifol am Citizen Church yn Cathays
Symudodd Ryan Forey i Gymru yn 2020, ac wythnos ar ôl cael ei wneud yn offeiriad cafodd ei wneud yn gyfrifol am Citizen Church yn ardal Cathays.
Roedd yr eglwys, sy'n darparu ar gyfer myfyrwyr a chynulleidfa iau yn bennaf, yn weithgar ar YouTube ac Instagram.
Cafodd Mr Forey ei ddisgrifio fel "offeiriad ifanc talentog", ond roedd yn hawlio pres nad oedd yn gymwys iddo - yn ôl tribiwnlys disgyblu'r Eglwys yng Nghymru.
Fe wnaeth y tribiwnlys ganfod fod y "gefnogaeth, yr oruchwyliaeth a'r arweiniad" a dderbyniodd gan yr eglwys yn "absennol iawn".
Ymddiswyddodd Mr Forey o'r Eglwys yng Nghymru ym mis Ebrill 2024.
'Gwasanaethau oedd ddim yn cael eu cynnal'
Fe wnaeth y tribiwnlys ganfod bod Mr Forey yn talu £300 y mis iddo'i hun am wasanaethau "oedd ddim yn cael eu cynnal", ac fe drefnodd i'w wraig dderbyn "lwfans priod clerig" o £500 y mis, rhwng Hydref 2020 a Chwefror 2024.
Cafodd y rhain eu canfod i beidio â bod yn "gostau dilys".
Fe wnaeth y tribiwnlys ganfod hefyd bod Mr Forey wedi sefydlu ap ffôn symudol, oedd yn dangos enwau plant oedd yn mynychu ei eglwys - gan gynnwys plant mewn gofal.
Gwrthododd Mr Forey dynnu'r ap i lawr, er iddo gael gwybod am y risg o ran rheolau diogelu a materion diogelu data, meddai'r tribiwnlys.
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd23 Mawrth
Fe wnaeth Ryan Forey hefyd sefydlu eglwys ei hun - Be Church yng Nghaerdydd - oedd yn gweithredu y tu allan i'r Eglwys yng Nghymru a hynny heb ganiatâd.
Clywodd y tribiwnlys nad oedd y taliadau i Mr Forey wedi'u cuddio a bod ganddo "gred wirioneddol, er yn gamarweiniol" eu bod yn cael eu caniatáu.
Clywon nhw fod hynny ar ôl iddo "weld arferion tebyg yn cael eu defnyddio mewn eglwysi blaenorol yr oedd wedi bod yn gweithio ynddynt".
Dywedodd Mr Forey wrth y tribiwnlys ei fod yn cymryd "cyfrifoldeb llawn" am ganiatáu defnydd yr ap, gan ddweud fod hwn yn "gyfnod arbennig o anodd" iddo ef a'i wraig.
Dywedodd fod sefydlu'r eglwys ar wahân yn weithred oedd yn gwreiddio o "boen, bregusrwydd, ac argyfwng o ran ei ffydd yn ei ddyfodol o fewn y Cymundeb Anglicanaidd".
Wedi 'colli cefnogaeth'
Mae dyfarniad y tribiwnlys ar Ryan Forey hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg cefnogaeth iddo fel ficer yn Citizen Church.
Cafodd Mr Forey gais i symud i Gymru yn ystod ei flwyddyn olaf o hyfforddiant, ac fe gafodd ei roi yng ngofal cynulleidfa wythnos yn unig ar ôl iddo gael ei wneud yn offeiriad.
Fe wnaeth y tribiwnlys ganfod ei fod wedi "colli cefnogaeth", oherwydd iddo gael ei "osod gan gyn-Esgob Llandaf" yn y swydd ar unwaith.
Hefyd, canfu fod y pandemig wedi "cyfyngu cyfleoedd ar gyfer goruchwylio a mentora".

Dywedodd Ryan Forey ei fod yn "derbyn cyfrifoldeb am y cyhuddiadau ac yn difaru'r camgymeriadau a wnes i"
Clywodd y tribiwnlys fod y diffyg cefnogaeth yn Citizen Church wedi "cyfrannu'n sylweddol" at pam ymddangosodd Mr Forey gerbron y tribiwnlys.
Ond cafodd ei ganfod - hyd yn oed gyda "methiannau goruchwylio, cefnogaeth a mentora" - fod Mr Forey yn "barod i anwybyddu'r rheolau".
Daeth y tribiwnlys i'r casgliad hefyd y dylai fod wedi sylweddoli y byddai ei weithredoedd wedi "dwyn anfri ar yr Eglwys yng Nghymru".
Fe wnaeth y tribiwnlys ganfod nad oedd Ryan Forey "wedi cael ei baratoi'n ddigonol" ar gyfer ei rôl a bod "absenoldeb y gefnogaeth, goruchwyliaeth ac arweiniad yn sylweddol".
Gorchmynnodd y tribiwnlys rybudd ffurfiol am yr holl gyhuddiadau.
Roedd hyn yn cynnwys na all Mr Forey ddal "swydd berthnasol" tan ei fod wedi cwblhau hyfforddiant diogelu ac wedi cael goruchwyliaeth am ddwy flynedd.
'Wedi bod yn dymor poenus'
Mewn datganiad, dywedodd Ryan Forey wrth BBC Cymru ei fod yn "derbyn cyfrifoldeb am y cyhuddiadau ac yn difaru'r camgymeriadau a wnes i".
"Mae hwn wedi bod yn dymor poenus, ond rydw i wedi dysgu llawer yn y cyfnod hwn.
"Ar ôl 20 mis allan o'r weinidogaeth - tymor o fyfyrio a thyfu - mae fy nheulu a minnau bellach yn barod ac yn awyddus i ddychwelyd i Loegr a mynd yn ôl i rannu gobaith Iesu, sydd wedi ein cynnal trwy gydol y tymor hwn."
Ar ei dudalen Instagram, cyhoeddodd Mr Forey ddyfarniad yr Eglwys yng Nghymru a datganiad yn dweud bod ei deulu wedi dioddef clywed sibrydion amdanyn nhw a "throlio ar-lein".
Dywedodd fod Citizen Church "wedi tyfu'n fawr, fe wnaethon ni dyfu'n gyflym, fe wnaethon ni wneud camgymeriadau ac fe wnaethon ni dyfu trwy hynny".
Ychwanegodd iddo wneud camgymeriadau: "Dydw i ddim yn gwneud esgusodion drostyn nhw. Dwi hefyd wedi dysgu oddi wrthyn nhw".
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru nad oedden nhw am wneud sylw ar yr achos.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.