Pryder am 180 o swyddi mewn cwmni labeli bwyd a diod

Mae tua 180 o bobl yn gweithio yn ffatri MCC yn ar stad ddiwydiannol Llantarnam
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr mewn cwmni labeli yng Nghwmbrân wedi cael gwybod y bydd y safle yn cau â'r swyddi'n symud i ddwyrain Ewrop.
Mae tua 180 o bobl yn gweithio yn ffatri MCC yn ar stad ddiwydiannol Llantarnam yn cynhyrchu labeli ar gyfer eitemau bwyd a diod.
Mae gan y cwmni leoliadau ar draws y byd, gan gynnwys yn yr Unol Daleithiau, Ewrop ac Awstralia.
Mae safle Cwmbrân wedi bod yn weithredol am dros 20 o flynyddoedd, ond mae gweithwyr wedi cael gwybod bod 'na gynlluniau i gau'r safle ac i drosglwyddo'r swyddi i Wlad Pwyl a Rwmania.
Mewn neges e-bost i'r staff, dywedodd llywydd y cwmni, Fred Noel: "Roedd hwn yn benderfyniad anodd ond hanfodol sy'n dangos y newid yn y gofynion rhanbarthol.
"Rydym yn gweithio'n agos â'r tîm lleol a'r cwsmeriaid i adolygu opsiynau os fydd angen".
Mewn datganiad, dywedodd MCC mai bwriad y cynllun yw "gwella effeithlonrwydd" ar draws y busnes.
Dywedodd un gweithiwr nad oedd eisiau cael ei enwi bod y cyhoeddiad wedi bod yn annisgwyl.
"Mae'r cwmni'n dweud bod y cynllun i gau yn un 'cynnig' ond mae'n teimlo'n sicr, does dim llawer o obaith."
Ychwanegodd: "Mae'r ysbryd yma yn isel, mae pobl yn flin iawn gan fod nhw ddim yn cael atebion.
"Does dim llawer o swyddi printio mas yna."
Dywedodd y cwmni nad oes newid i staff na chwsmeriaid am y tro, a bod ymgynghoriad i ddod am y cynllun, fydd yn para am rai misoedd.
"Bwriad y cynnig i gau Cwmbrân yw cydbwyso ein cynhyrchu yn y DU ar sail y galw presennol a'n capasiti ar draws ein safleoedd yn y DU", meddai'r datganiad.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cwsmeriaid a chydweithwyr i drafod pob opsiwn, allai yn y pen draw olygu symud gwaith cynhyrchu a cholli rhai swyddi."
Dadansoddiad
Mae gweithwyr yng Nghwmbrân yn colli eu swyddi oherwydd strategaeth cwmni MCC sy'n cwtogi yng Nghymru wrth ehangu ffatrïoedd yn nwyrain Ewrop.
Gyda refeniw blynyddol byd-eang o tua £2.4 biliwn ($3 biliwn), mae'r cwmni yn arwain ym maes cynhyrchu labeli.
Ond daw hynny ag ymdrechion cryf a pharhaol i dorri costau a chynyddu elw.
Mae cau safle Cwmbrân yn ergyd enfawr i'r gweithlu a'r gymuned leol.
Mewn llythyr at staff fe wnaeth y cwmni feio "gofynion rhanbarthol", sy'n awgrymu nad oedd ei ffatri yng Nghwmbrân bellach yn hyfyw.
Mae "strategaeth twf" ehangach MCC yn canolbwyntio ar ehangu yng Ngwlad Pwyl a Rwmania, ac mae ganddo safleoedd mewn dros 25 o wledydd eraill gyda gweithlu o fwy na 12,000 o bobl.
Bydd ymdrechion y Canghellor i hybu twf yn y DU yn golygu bod rhaid i fwy o gwmnïau ehangu eu gweithrediadau yma, yn hytrach na'u cau i lawr.
Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gynnal uwchgynhadledd fuddsoddi yn ddiweddarach eleni, bydd effaith cau ffatri MCC yn codi cwestiynau am yr amodau gwneud busnes yng Nghymru, a'r cymorth sydd ar gael i unrhyw fusnes newydd sydd am fuddsoddi yma.