Lluniau'r gwanwyn: Tirwedd Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n wanwyn yma yng Nghymru, ac mae'r tirlun yn edrych yn hynod hardd.
Cewch chi unman mwy hardd na ardal Sir Benfro pan fo'r haul yn gwenu, a dyma gasgliad o luniau gan y ffotograffydd Mike Alexander o'r ardal yn y gwanwyn.

Un o draethau hyfryd niferus Sir Benfro

Cafodd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei sefydlu yn 1952

Eryri oedd Parc Cenedlaethol cyntaf Cymru (1951), yna Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (1952), a Bannau Brycheiniog yw'r diweddaraf (1957)

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw'r unig barc 'arfordirol' yng Ngwledydd Prydain, ac yn ogystal â'r milltiroedd o draethau mae nifer o ynysoedd

Yr haul ar y gorwel oddi ar yr arfordir

Mae tua 125,000 o bobl yn byw yn Sir Benfro, gyda thua 21,000 yn byw o fewn ffiniau'r parc cenedlaethol

Pyllau Lili Bosherston yn ne Sir Benfro

Pentref a phorthladd Porthgain

Dinbych y Pysgod a waliau'r castell mewn golwg. Cafodd y castell ei adeiladu gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif

Mae'r tirwedd creigiog yn gallu bod yn ddramatig ar hyd yr arfordir

Mynachdy Ynys Bŷr sydd tua milltir o borthladd Dinbych y Pysgod

Y môr yn debyg i liw moroedd ynysoedd Y Môr Canoldir

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymestyn dros ardal o tua 615km sgwâr

Staciau'r Heligog oddi ar arfordir deheuol Sir Benfro

Cafodd rhannau o ffilm Robin Hood gyda Russell Crowe ei ffilmio ar draethau Sir Benfro yn 2010

Gyda golygfeydd godidog fel hyn does dim syndod bod yr ardal yn fan hynod boblogaidd gyda thwristiaid
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2023