Cystadleuaeth ffitrwydd Hyrox yn dod i Gymru am y tro cyntaf

Stadiwm Principality CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y digwyddiad 'rasio ffitrwydd' yn cael ei gynnal rhwng 30 Mai a 1 Mehefin

  • Cyhoeddwyd

Bydd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn cynnal y digwyddiad Hyrox cyntaf erioed yng Nghymru dros yr haf.

Bydd y digwyddiad 'rasio ffitrwydd' yn cael ei gynnal rhwng 30 Mai a 1 Mehefin yn y stadiwm sydd â 74,000 o seddi.

Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn rhedeg 1km cyn cwblhau un ymarfer ffitrwydd, gan gynnwys 1km ar beiriant sgïo, gwthio sled am 50m ac 80m mewn neidiau burpee.

Mae cystadleuwyr - proffesiynol neu amatur - yn ailadrodd y broses nes eu bod wedi perfformio wyth rhediad 1km ac wyth ymarfer.

Gall cystadleuwyr gymryd rhan fel her bersonol neu'n broffesiynol, ac mae modd cystadlu mewn categorïau i barau neu dimau o bedwar.

Mae fformat y ras yn gyson yn fyd-eang; mae Glasgow yn cynnal digwyddiad rhwng 12 a 16 Mawrth, gyda Malaga, Copenhagen, Shanghai, Cologne, Miami a Bangkok ymhlith y dinasoedd eraill i gynnal digwyddiadau dros y misoedd nesaf.

Cafodd y ras gyntaf ei sefydlu gan Christian Toetzke a'r pencampwr Olympaidd Moritz Fürste yn yr Almaen yn 2017.

Fe wnaeth 650 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad - ond mae Hyrox bellach yn dweud bod bron i 200,000 o gystadleuwyr ar draws y byd.

Pynciau cysylltiedig