Cynnydd bychan mewn diweithdra yng Nghymru

4.0% oedd cyfradd ddiweithdra Cymru rhwng mis Mai a Gorffennaf eleni
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd bychan wedi bod yn y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae data'r Swyddfa Ystadegau yn dangos bod cyfradd ddiweithdra Cymru ymhlith pobl dros 16 oed yn 4.0% rhwng mis Mai a mis Gorffennaf eleni.
Mae hyn yn gynnydd o 0.5% o'i gymharu â’r tri mis blaenorol.
4.1% oedd y gyfradd ddiweithdra ar draws y DU yn ystod yr un cyfnod.
Er hynny, mae nifer y rheiny mewn gwaith wedi cynyddu 0.8% i 69.8% rhwng Mai a Gorffennaf - ond mae'r gyfradd yn parhau yn is na'r ffigwr ar gyfer y DU gyfan (74.8%).